Newyddion S4C

Cipolwg ar brif benawdau'r bore

13/05/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Iau, 13 Mai.

Frankie Morris: Heddlu yn apelio am wybodaeth am barti mewn chwarel

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a fynychodd barti mewn hen chwarel uwchlaw pentref Waunfawr ddydd Sadwrn, 1 Mai. Mae'r apêl o'r newydd yn rhan o ymdrechion yr heddlu i geisio dod o hyd i Frantisek 'Frankie' Morris, 18 oed, sydd wedi bod ar goll ers dydd Sul, 2 Mai. 

Annog Mark Drakeford i flaenoriaethu ‘argyfwng’ ail gartrefi Cymru 

Mae Cyngor Tref Nefyn wedi ysgrifennu llythyr i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn erfyn arno i weithredu ar frys ar yr "argyfwng" ail gartrefi yn eu hardal. Mae'r Aelod Senedd Cymru newydd ar gyfer ardal Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, wedi cefnogi'r mater ac yn dweud ei fod yn barod i roi pwysau ar y llywodraeth i weithredu ar y mater. Mae Llywodraeth Cymru wedi diolch am y llythyr. 

Cofio 'hanes cudd' terfysgoedd hil 1919

Ar drothwy rhaglen newydd sy'n cofio'r terfysgoedd hil ym Mae Caerdydd yn 1919, mae'r cyflwynydd Sean Baker yn dweud fod stori'r terfysgoedd wedi "cael ei chladdu". Bu farw tri o bobl, gyda channoedd wedi eu hanafu yn y terfysgoedd yn y ddinas ym mis Mehefin 1919. Dywedodd y cyflwynydd ei fod wedi "synnu cyn lleied sy'n gwybod am be ddigwyddodd yn yr ardal". 

Covid-19: Rhybudd y gall amrywiolyn India ohirio'r broses o lacio cyfyngiadau

Mae gwyddonwyr sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhybuddio y gall cynnydd mewn achosion Covid-19 o’r amrywiolyn India ohirio’r camau olaf o lacio cyfyngiadau. Dywed The Mirror fod y Prif Weinidog, Boris Johnson eisoes rhybuddio fod y straen "o bryder cynyddol". 

Un o brif swyddogion Hamas yn cael ei ladd yn Gaza

Mae SkyNews yn adrodd fod un o brif swyddogion Hamas wedi'i ladd yn dilyn diwrnod arall o drais rhwng Isral a Phalestina yn ninas Gaza. Y gred yw mai Bassem Isa yw un o'r swyddogion fwyaf adnabyddus i gael ei ladd ers y rhyfel yno saith mlynedd yn ôl. Mae cannoedd o rocedi wedi cael eu tanio o’r ddwy ochr gan filwyr Israel a Phalestina, gyda’r un fwyaf diweddar yn achosi i adeilad 13 llawr ddymchwel ddydd Mercher. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.