Newyddion S4C

Cofio 'hanes cudd' terfysgoedd hil 1919

13/05/2021
Sean Fletcher

Can mlynedd ers i derfysg hil 1919 hawlio penawdau papurau newydd ar draws Prydain, mae pryder heddiw nad yw pobl yn ymwybodol o'r hanes.

Yn ôl y cyflwynydd a'r newyddiadurwr Sean Fletcher, mae stori'r terfysgoedd wedi "cael ei chladdu".

Dywedodd Mr Fletcher: "Pan oeddwn yn byw yng Nghaerdydd, ro ni’n meddwl mod i’n deall lot am hanes y lle, bod o’n ddinas cosmopolitan gydag un o’r cymunedau du hynaf ym Mhrydain. Ond doedd neb yn sôn am un o ddigwyddiadau pwysicaf yn hanes y ddinas. Roedd hon yn stori oedd wedi ei chladdu."

Bu farw tri o bobl, gyda channoedd wedi eu hanafu yn y terfysgoedd yn y ddinas ym mis Mehefin 1919.

“Jyst dros gan mlynedd yn ôl roedd trais ofnadwy, adeiladau yn cael eu malu a gynnau yn cael eu saethu. Bobl gwyn yn ymosod ar bobl o liw mewn terfysg barodd dyddiau, terfysg hil," meddai Mr Fletcher.

“Gweithwyr o Affrica, Asia a’r Caribî a theuluoedd cymysg oedd yn cael eu targedu. Doedd yr awdurdodau ddim eisiau’r bobl yma yn eu dinas. Ond fe safodd rhai yn gadarn a dweud mai Cymru oedd eu cartref, wedi’r cyfan roedd rhai wedi byw yno ers cenedlaethau a magu teuluoedd yno.”

'Hanes yn cael ei anghofio'

Magwyd Leslie Clarke yn yr hen Tiger Bay. Roedd gan ei mam atgofion poenus o’r terfysg.

Dywedodd Ms Clarke: “Fel teulu hil gymysg cafodd fy Mam-gu a Thad-cu eu targedu. Cafodd Mam-gu ei churo o flaen fy mam a oedd yn blentyn ar y pryd, a rhedodd y mob lawr y stryd ar ôl fy nhad-cu. Os fydden nhw wedi ei ddal byddai wedi cael ei lynsio.”

Yn ôl Ms Clarke, nid oes digon o bobl wedi clywed am y terfysg.

“Rwy'n 87 oed, a phan fydda i'n mynd, bydd yr hanes yn cael ei anghofio,” ychwanegodd.

Mewn rhaglen ddogfen ar S4C, Terfysg yn y Bae, bydd Mr Fletcher yn mynd ar daith i ddarganfod mwy am yr hanes, ac i gymharu agweddau cymdeithasau ddoe a heddiw.

Meddai Sean, “Y slogan heddiw yw bod bywydau du o bwys. Ond tydi ni ddim yn gwybod llawer am y bywydau yma yng Nghymru.

“Mae’n synnu fi cyn lleied sy’n gwybod am be ddigwyddodd yn yr ardal. Os oeddwn i wedi byw yng Nghaerdydd 100 mlynedd yn ôl byddai fy nheulu hil cymysg yn ofni am ein bywydau.”

“Shwt allai rhywbeth fel hyn ddigwydd yn Caerdydd?”

'Hiliaeth yn rhan o'n hanes'

Mae’r Athro Martin Johnes, Prifysgol Abertawe, yn cytuno bod angen wynebu'r hanes anghyffyrddus.

“Ni’n licio dysgu am Owain Glyndŵr, clywed pa mor gas mae’r Saeson wedi bod i ni, ond mae’n rhaid i’r Cymry feddwl a chofio beth mae pobl yng Nghymru wedi gwneud i bobl eraill yng Nghymru. Mae hiliaeth yn rhan o’n hanes.”

Bydd Terfysg yn y Bae ymlaen ar S4C nos Iau, 13 Mai am 21.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.