Un o brif swyddogion Hamas yn cael ei ladd yn Gaza
Mae swyddogion Hamas wedi cyhoeddi fod un o’i phrif arweinwyr wedi’i ladd yn dilyn diwrnod arall o drais rhwng Israel a Phalestina yn ninas Gaza.
Dywed SkyNews mai Bassem Isa yw’r uwch swyddog pennaf i gael ei ladd ers y rhyfel yno saith mlynedd yn ôl, gydag Israel yn cadarnhau ei fod yn un o’r 16 aelod o Hamas i gael ei ladd ers i’r ymladd ddechrau ddydd Llun.
Mae cannoedd o rocedi wedi cael eu tanio o’r ddwy ochr gan filwyr Israel a Phalestina, gyda’r un fwyaf diweddar yn achosi i adeilad 13 llawr ddymchwel ddydd Mercher.
Mae’r Cenhedloedd Unedig eisoes wedi rhybuddio fod y trais yn “gwaethygu tuag at ryfel ar raddfa lawn”, gydag o leiaf 65 person wedi marw hyd yma yn Gaza.