Annog Mark Drakeford i flaenoriaethu ‘argyfwng’ ail gartrefi Cymru
13/05/2021
Mae ymgyrchwyr dros ail gartrefi yn ardal Nefyn wedi ysgrifennu llythyr i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn erfyn arno i weithredu ar frys ar ail gartrefi yn eu hardal.
Yn y llythyr, mae Cyngor Tref Nefyn yn dweud nad ydyn nhw’n gweld “dyfodol i’n cymuned fel cymuned fyw gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.
Mewn cyfweliad gyda'r Daily Post, mae'r Aelod Senedd Cymru newydd ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, yn dweud ei fod yn barod i roi pwysau ar y llywodraeth i fynd i’r afael â’r broblem.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diolch i Gyngor Tref Nefyn am y llythyr.