Newyddion S4C

Frankie Morris: Heddlu yn apelio am wybodaeth am barti mewn chwarel

12/05/2021
Ymholiad Heddlu Gogledd Cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud apêl o'r newydd am wybodaeth i geisio dod o hyd i ddyn 18 oed o Wynedd.

Mae Frantisek Morris, sy'n cael ei adnabod fel Frankie, wedi bod ar goll ers dydd Sul, 2 Mai.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a fynychodd barti mewn hen chwarel uwchlaw pentref Waunfawr yn y sir ddydd Sadwrn, 1 Mai.

Y tro diwethaf i Mr Morris gael ei weld oedd ar gamera ger y Vaynol Arms ym Mhentir am 13.12 ar 2 Mai.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott: "‘Hoffwn apelio’n uniongyrchol at unrhyw un a fynychodd barti yn y chwarel uwchben Waunfawr ddydd Sadwrn 1 Mai, sydd ddim wedi dod ymlaen yn barod i wneud hynny.

"Rwy'n deall y gallai pobl fod yn gyndyn i wneud hynny gan nad oedd y parti yn ddigwyddiad wedi'i drefnu, ond hoffwn eich sicrhau ein bod ond yn poeni am roi gymaint o wybodaeth â phosibl at ei gilydd am symudiadau Frankie."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un wnaeth fynychu'r parti i gyflwyno unrhyw wybodaeth i'r tîm ymchwilio.

"Os gwnaethoch fynychu'r parti, a bod gennych unrhyw luniau neu fideo o gwbl ar eich ffôn symudol, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, er pa mor fach, a allai ein helpu, gallwch ymweld â https://mipp.police.uk/operation/60NWP19A03-PO1.

"Byddwch yn gallu cyflwyno gwybodaeth neu uwchlwytho lluniau neu fideo yn uniongyrchol i'r tîm ymchwilio yn ddienw."

Mae presenoldeb yr heddlu wedi bod yn amlwg yn yr ardal ers diflaniad Mr Morris.

"Bydd trigolion Pentir wedi sylwi ar bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau diwethaf, ac mae hynny am barhau. Os oeddech chi yn yr ardal ddydd Sul 2 Mai, ac efallai wedi gweld Frankie, cysylltwch â ni, yn enwedig os oes gennych fideo dashcam neu unrhyw fath arall o fideo.

"Yn olaf, gofynnwn i drigolion Pentir a’r ardaloedd cyfagos edrych mewn unrhyw siediau neu adeiladau allanol ar eu tir, a chysylltu â ni os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw beth anghyffredin."

Mae swyddogion sydd wedi eu hyffordd yn arbennig yn parhau i gefnogi teulu Frankie.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.