Newyddion S4C

Covid-19: Rhybudd y gall amrywiolyn India ohirio'r broses o lacio cyfyngiadau

Mirror 13/05/2021
Coronafeirws

Mae gwyddonwyr sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhybuddio y gall cynnydd mewn achosion Covid-19 o’r amrywiolyn India ohirio’r camau olaf o lacio cyfyngiadau.

Dywed The Mirror fod disgwyl i’r ffigyrau diweddaraf ar ddydd Iau ddangos fod nifer yr achosion wedi cynyddu yn Lloegr.  

Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, eisoes wedi dweud fod straen B1617.2 “o bryder cynyddol”. 

Daeth cadarnhad ddydd Mercher fod pum achos newydd o’r amrywiolyn wedi cael ei adnabod yng Nghymru. 

Nid oes tystiolaeth feddygol hyd yma i awgrymu fod amrywiolion newydd yn lleihau effeithlonrwydd brechlynnau Covid-19.

Darllenwch y stori’n llawn yma. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.