Y Senedd i bleidleisio ar gynlluniau i gynyddu nifer yr aelodau
Fe fydd aelodau'r Senedd yn cael y cyfle i bleidleisio ar gynyddu'r nifer yn eu plith o 60 i 96 ddydd Mercher.
Cafodd yr awgrym i gynyddu maint y Senedd ei wneud gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd mewn adroddiad diweddar.
Roedd y bwriad yn un o amcanion Cynllun Cydweithio rhwng y llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yn dilyn Etholiadau'r Senedd fis Mai'r llynedd.
Mae argymhellion yr adroddiad hefyd yn dweud y dylai'r aelodau gael eu hethol drwy system bleidleisio gynrychiadol a chwotas rhywedd integredig.
Os yw aelodau'n cefnogi'r argymhellion ddydd Mercher, fe fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau ar lunio Bil Diwygio'r Senedd, gyda'r newidiadau yn debygol o ddigwydd erbyn 2026.
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r cynlluniau i ehangu'r Senedd, gan alw am refferendwm ar y mater.
Mae'r Ceidwadwyr yn beirniadu'r gost gan ddweud y gallai gostio hyd at £100 miliwn yn ystod y bum mlynedd nesaf.
Ond mae'r llywodraeth yn dadlau fod angen creu "Senedd fodern, sy'n adlewyrchu'r Gymru yr ydym yn byw ynddi heddiw".
Mae disgwyl i aelodau bleidleisio ar y cynlluniau yn ddiweddarach ddydd Mercher.