Newyddion S4C

Diwygio’r Senedd yn ‘hanfodol ac yn bosibl’ medd adroddiad

30/05/2022
Senedd

Mae’n rhaid cryfhau’r Senedd a “chynrychioli pobl Cymru’n well” erbyn 2026, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd.

Ymhlith yr argymhellion mae cynyddu aelodau'r senedd i 96, symud y system bleidleisio i un o bleidleisio cyfrannol a diwygio ffiniau i greu 16 o etholaethau newydd gyda chwe aelod ymhob un.

Daw'r adroddiad bythefnos wedi i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ddweud y byddan nhw'n mynd ati i gynyddu nifer aelodau'r Senedd i 96 - cynlluniau sydd wedi eu gwrthwynebu'n chwyrn gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd wedi cynnig pecyn o ddiwygiadau “a fyddai’n arwain at graffu mwy pwerus ar y llywodraeth, aelodaeth fwy amrywiol gan gynnwys gwell cynrychiolaeth i fenywod.”

Mae’r Pwyllgor “yn argymell yn gryf” bod y newidiadau’n cael eu cyflwyno ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, ac mae wedi nodi amserlen glir i gyflawni hyn, gyda’r disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil diwygio'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd: “Mae ein hadroddiad yn gosod cynllun ar gyfer Senedd gryfach a fydd yn rhoi llais cryfach i bobl Cymru. 

“Mae’r Senedd heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i’r un a sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl. Mae ei phwerau wedi cynyddu i gyd-fynd ag uchelgeisiau ein cenedl fodern a balch. Bellach gall ddeddfu a gosod trethi i Gymru, sef materion sy’n effeithio ar fywydau pob person yng Nghymru.

“Gyda mwy o bwerau, rhaid sicrhau mwy o atebolrwydd. Mae arnom angen senedd a all graffu’n effeithiol ar y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ar ran y cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu.

"Nid yw’r system bresennol yn caniatáu i hynny gael ei wneud cystal ag y dylai gael ei wneud.”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r argymhellion gan ddweud y gallai’r newidiadau gostio trethdalwyr Cymru tua £100 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd eu llefarydd ar y cyfansoddiad Darren Millar: “Nid yw cynnwys yr adroddiad yn syndod.

"Rydym yn gadarn yn ein gwrthwynebiad i gynnydd yn nifer aelodau’r Senedd. 

"Mae angen rhagor o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru, nid rhagor o wleidyddion.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.