Newyddion S4C

Drakeford a Price: ‘Dylid cynyddu maint y Senedd o 60 i 96 aelod’

10/05/2022
Senedd Cymru

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dweud dylid cynyddu maint y Senedd o 60 i 96 aelod.

Daw’r cyhoeddiad wrth amlinellu ffordd ymlaen ar gyfer ei diwygio.

Mae’r ddau yn awyddus i’r Senedd gael ei diwygio mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026, hyd yn oed os bydd rhai o’r newidiadau’n cael eu cyflwyno dros dro.

Mewn llythyr at Huw Irranca-Davies, cadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig trawsbleidiol ar Ddiwygio’r Senedd, maen nhw wedi gwneud datganiad ar y cyd gyda’r nod i gefnogi gwaith y pwyllgor i wneud argymhellion a fydd yn siapio Bil Diwygio’r Senedd.

Bydd y pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad erbyn 31 Mai a bydd dadl a phleidlais yn cael ei chynnal yn y Senedd.

Cydweithio 

Mae’r datganiad ar y cyd wedi dod yn sgil trafodaethau parhaus rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.

Y prif bwyntiau yw:

  • Dylai fod gan y Senedd 96 o Aelodau.
  • Dylid ei hethol gan ddefnyddio rhestrau cyfrannol caeedig gyda chwotâu rhywedd statudol integredig a rhestrau ‘am yn ail’ gorfodol.
  • Dylid dyrannu seddi i bleidiau gan ddefnyddio fformiwla D’Hondt.
  • Dylai etholiad y Senedd yn 2026 ddefnyddio’r 32 etholaeth derfynol yn Senedd y DU a gynigir gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru unwaith y bydd wedi cwblhau ei Adolygiad Seneddol yn 2023.
  • Dylid cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau’r Senedd. Dylai pob etholaeth ethol chwe Aelod.
  • Dylid cychwyn arolwg llawn o’r ffiniau yn ystod tymor y Senedd hon a dylai ei argymhellion ddod i rym yn etholiad dilynol y Senedd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae’r achos dros ddiwygio’r Senedd wedi’i wneud. Mae angen inni nawr fwrw ymlaen â’r gwaith caled i greu Senedd fodern sy’n adlewyrchu Cymru fel y mae heddiw; Senedd sydd wir yn gweithio i Gymru.

“Bydd y datganiad safbwynt ar y cyd yr ydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gefnogi gwaith pwysig y Pwyllgor Diben Arbennig trawsbleidiol i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio’r Senedd.” 

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: “Bydd y diwygiadau hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer democratiaeth gryfach yng Nghymru a Senedd decach, fwy cynrychiadol a fydd yn edrych yn hollol wahanol i’r system wleidyddol yn San Steffan, system sydd wedi hen ddyddio.

“Bydd gan Senedd gryfach, fwy amrywiol a mwy cynrychiadol fwy o allu i gyflawni ei brif ddiben, sef gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Cymru.”

Wrth ymateb i'r datganiad dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Does dim angen mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd – mae angen mwy o athrawon, meddygon, deintyddion a nyrsys.

“Dylai gweinidogion fod yn gwario arian ar fynd i’r afael â’r materion mawr sy’n wynebu Cymru, nid gwastraffu amser ac arian yn edrych ar gynyddu nifer aelodau’r Senedd.

Dywedodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae'r datganiad yn brin o'r hyn sydd ei angen arnom i greu Senedd a democratiaeth sy'n addas i Gymru.

"Ni fydd y map etholaethol arfaethedig yn golygu dim i gymunedau, a byddwn yn dal â system bleidleisio sy'n methu â sicrhau bod pleidleisiau'n cyfateb i seddi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.