Cyhoeddi cynllun newydd i daclo amseroedd aros y GIG
Fe fydd y llywodraeth yn cyhoeddi cynllun newydd i fynd i'r afael â amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i gynllunio drwy’r GIG.
Bydd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyhoeddi’r cynllun brynhawn dydd Mawrth.
Yr wythnos diwethaf, fe ddaeth i’r amlwg bod amseroedd aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar eu hiraf erioed.
Fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wrth Newyddion S4C ddydd Sul bod angen i’r llywodraeth “fynd ymhellach” i geisio lleihau amseroedd aros.
Bydd y cynllun yn ceisio sicrhau mai blwyddyn ar yr hwyraf fydd yn rhaid aros ar gyfer triniaeth erbyn Gwanwyn 2025.
Effaith y pandemig
Fe gafodd y pandemig effaith niweidiol ar y mwyafrif o apwyntiadau a thriniaethau gan mai'r flaenoriaeth oedd gofalu am gleifion wedi eu heffeithio gan Covid-19.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, bod angen "ymdrech ddwys i sicrhau bod pobl sy'n aros am apwyntiadau a thriniaeth yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl ac yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.
"Rydym yn ymrwymo £1 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon i helpu'r GIG i adfer wedi’r pandemig ac i drin pobl cyn gynted â phosibl."
Bydd yr uchelgais i leihau yr amser aros ar gyfer gofal yn golygu "mwy o gyfarpar, cyfleusterau newydd a mwy o staff i helpu i roi diagnosis cyflym i bobl fel rhan o wasanaeth gofal a gynlluniwyd sy’n effeithiol ac yn effeithlon."
Mae'r cynllun yn ceisio parhau â'r addasiadau sydd wedi digwydd yn sgil y pandemig drwy anelu i gynnal 35% o'r holl apwyntiadau newydd a 50% o'r rhai dilynol yn rhithiol yn y dyfodol.
Bydd pwyslais hefyd ar geisio darparu gofal yn agosach at gartrefi pobl yn ogystal â gwefan i ddarparu cyngor ar sut i reoli cyflyrau gyda'r llywodraeth yn anelu i gael dwy ganlfan ddiagnostig gymunedol wedi eu datblygu eleni yn hytrach na bod angen teithio i'r ysbyty.
Ymateb y pleidiau
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod yn croesawu'r cynllun ond eu bod wedi clywed "nifer o addewidion tebyg" yn ystod cyfnod Llafur wrth y llyw yng Nghymru.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am sicrwydd nad yw'r cynllun yn "blastar" i guddio "materion sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn".
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Blaid Cymru am eu hymateb.