Newyddion S4C

Ysbytai Cymru yn cofnodi eu ffigyrau amseroedd aros gwaethaf erioed

Gwasanaeth brys

Mae ysbytai Cymru wedi cofnodi eu ffigyrau gwaethaf erioed o ran amseroedd aros ddydd Iau.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o drin pobl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr - ond unwaith eto ni chafodd rhain eu cyrraedd.

Dim ond 65.1% o bobl gafodd eu trosglwyddo i ward neu eu hanfon adref o adrannau brys o fewn pedari awr, gan fethu'r targed o 95%.

Roedd y ffigwr ar ei isaf yn Ysbyty Glan Clwyd (44.1%).

Roedd mwy o gleifion nag erioed, 10,886 o bobl, yn aros dros 12 awr i gael eu trin.

Cafodd y ffigyrau eu beirniadu’n hallt gan y gwrthbleidiau.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Russell George: "Mae rhestrau aros adrannau damweiniau ac achosion brys ar eu gwaethaf erioed, gydag ymatebion ambiwlans heb fod ymhell ar ei hôl hi - pan fo pethau'n gwella yn Lloegr.”

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds: "Mae'r ffigyrau hyn yn drychinebus i bobl ar hyd a lled Cymru. Mae Llafur yn methu'n llwyr â mynd i'r afael â'r argyfwng hwn, mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu a gweithredu yn awr.

Argyfwng

"Rhaid i'r llywodraeth lansio ymchwiliad i'r argyfwng yn ein gwasanaethau ambiwlans, llenwi'r 3,000 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru a thaclo amseroedd aros canser dinistriol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae COVID-19 yn dal i effeithio ar amseroedd aros a lefelau staffio. Mae mesurau atal a rheoli heintiau llymach yn dal i effeithio ar lefel y gweithgarwch y gall byrddau iechyd ymgymryd ag ef.”

Dywedodd y llefarydd hefyd fod "cyfraddau absenoldebau salwch uwch ac anawsterau wrth ryddhau pobl o'r ysbyty", wedi golygu bod mwy o oedi wrth aros am welyau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Dywedodd: "Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw ac adroddodd y gwasanaethau ambiwlans brys am gynnydd o 10% yn nifer y galwadau 'coch', neu alwadau lle mae bywyd yn y fantol, bob dydd ym mis Mawrth o'i gymharu â mis Chwefror.

Ychwanegodd: "Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl i egluro sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r amseroedd aros ar gyfer y cleifion hynny y cafodd eu triniaeth ei hoedi dros dro yn sgil y pandemig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.