Gweinidog iechyd: Angen i'r llywodraeth 'fynd ymhellach' i leihau amseroedd aros
Gweinidog iechyd: Angen i'r llywodraeth 'fynd ymhellach' i leihau amseroedd aros
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn cydnabod bod angen “mynd ymhellach” i geisio lleihau amseroedd aros a chynyddu nifer y bobl sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Wythnos diwethaf fe gofnododd y Gwasanaeth Iechyd ei ffigyrau amseroedd aros gwaethaf erioed.
Mewn cyfweliad ddydd Sul gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Eluned Morgan: "Ni eisoes wedi gwneud buddsoddiad syfrdanol ond yn amlwg ma' rhaid i ni fynd ymhellach."
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o drin pobl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr - ond unwaith eto ni chafodd y targed ei gyrraedd.
Dim ond 65.1% o bobl gafodd eu trosglwyddo i ward neu eu hanfon adref o adrannau brys o fewn pedair awr, gan fethu'r targed o 95%.
‘Anghynaliadwy’
Mae’r ffigyrau diweddaraf wedi eu beirniadu gan y gwrthbleidiau.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod targedau'r Gwasanaeth Iechyd yn "mynd i'r cyfeiriad anghywir" ac fe ddywedodd Plaid Cymru fod y problemau "yn bodoli ers blynyddoedd" cyn y pandemig.
"Nid problem newydd ydy hyn, ma'n bwysig iawn cofio hynny,” meddai llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
“Unwaith eto 'da ni'n gallu gweld pa mor anghynaliadwy ydy gwasanaethau iechyd a gofal o dan eu rheolaeth bresennol nhw.”
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, datrysiad posib i'r sefyllfa presennol yw sefydlu canolfannau rhanbarthol i leddfu'r baich ar ysbytai.
“Roedd y gweinidog yn wreiddiol yn amheus o’r syniad,” meddai llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.
“Ond mae'r gweinidog yn dal i ddweud mai mater i fyrddau iechyd yw cyflwyno'r cynlluniau o hyd – dwi wir yn meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru arwain a chyflwyno’r cynlluniau hyn eu hunain.”
‘Mynd i’r cyfeiriad cywir’
Er y ffigurau diweddaraf mae Eluned Morgan yn mynnu fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
"I ni di gweld 54% o gynnydd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf o ran pobl yn gweithio yn yr NHS,” meddai.
I saw intense pressure at our A&E depts in @teamedygc Glan Clwyd and at an unannounced visit to @CAVUHB Cardiff last night. People being incredibly patient despite very long waits. Thx to staff for heroic work. Pls don’t go to A&E unless urgent. Phone 111. pic.twitter.com/pyVXoqv5ls
— Eluned Morgan 🇺🇦 (@Eluned_Morgan) April 23, 2022
"Cynnydd yn y nifer o GP's yma yng Nghymru, sy'n wahanol i beth ma' nhw'n i weld yn Lloegr, a 72% yn fwy o bobl yn cael eu hyfforddi fel nyrsys yng Nghymru.
"Felly i ni'n mynd yn y cyfeiriad cywir, y drafferth yw ma' lot o bobl yn gadael achos y pwysau aruthrol ma' nhw dan ar hyn o bryd," ychwanegodd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun hirddisgwyliedig ddydd Mawrth fydd yn ceisio mynd i'r afael â'r rhestrau aros.