Suddo'r Moscow: Pryder y gall lluoedd Rwsia ddial ar ddinasoedd Wcráin

Mae pryder y gall lluoedd Rwsia geisio dial ar ddinasoedd Wcráin wedi i un o brif longau llynges Rwsia yn y Môr Du gael ei suddo yn dilyn digwyddiad fore dydd Iau.
Mae adroddiadau fod ffrwydradau grymus wedi eu clywed yn Kyiv a dinasoedd eraill fore dydd Gwener.
Fe wnaeth yr awdurdodau yn Rwsia honni mai tân ar fwrdd y 'Moscow' oedd yn gyfrifol am greu difrod sylweddol iddi cyn iddi suddo.
Ond mae Wcráin yn honni bod y llong wedi ei difrodi a'i suddo gan ddau daflegryn gwrth-longau.
Fe suddodd y llong wrth gael ei hebrwng yn ôl i borthladd ac nid oes manylion am nifer y criw oedd ar ei bwrdd ar hyn o bryd.
Nos Iau fe wnaeth asiantaeth newyddion swyddogol Rwsia, Tass, gyhoeddi fod y llong wedi suddo ar ei ffordd i borthladd o achos cyflwr garw y môr ar y pryd.
"Fe gollodd y llong ei chydbwysedd o ganlyniad i ddifrod yn dilyn tân wedi i arfau oedd ar ei bwrdd ffrwydro. O ganlyniad i'r môr garw, fe suddodd y llong."
Mae suddo'r 'Moscow' yn ergyd sylweddol i rym a bygythiad llynges Rwsia yn y Môr Du, ac roedd y llong yn symbol o gryfder y llynges yno tan iddi suddo.
Darllenwch ragor yma.