Un o brif longau llynges Rwsia yn y Môr Du 'wedi ei difrodi'

Mae cryn ddyfalu am dynged un o brif longau llynges Rwsia yn y Môr Du fore dydd Iau, yn dilyn adroddiadau ei bod wedi ei difrodi.
Dywed asiantaeth newyddion Reuters fod awdurdodau yn Rwsia'n honni mai tân ar fwrdd y 'Moscow' oedd yn gyfrifol am greu difrod sylweddol iddi dros nos.
Ond mae un swyddog o luoedd Wcráin yn honni bod y llong wedi ei difrodi gan ddau daflegryn gwrth-longau, er nad oes tystiolaeth gadarn o hyn eto.
Petai'r 'Moscow' wedi ei difrodi, suddo neu ei dryllio, fe fyddai'n ergyd sylweddol i rym a bygythiad llynges Rwsia yn y Môr Du.
Mae gan y llong griw o 450-500 fel arfer.
Darllenwch ragor yma.