Golwg360 a Corgi Cymru i redeg dau wasanaeth newyddion digidol Cymraeg
Daeth cadarnhad fod dau gyhoeddwr – Golwg360 a Corgi Cymru – wedi cael cytundebau gan Gyngor Llyfrau Cymru i redeg gwasanaethau newyddion digidol Cymraeg.
Ers 2009, roedd y cytundeb wedi ei gynnig i Golwg360 yn unig, ac ym mis Tachwedd y llynedd fe adroddodd Newyddion S4C fod pryder am ddyfodol y gwasanaeth gan fod disgwyl iddo golli nawdd gan y Cyngor Llyfrau.
Mae'r cyhoeddiadad diweddaraf yn gadarnhad y bydd nawdd Golwg360 yn haneru.
Dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru fod y ddau gyhoeddwr, Golwg360 a Corgi Cymru wedi darparu "cynigion cyffrous".
Yn ôl manylion hysbysiad y cytundeb ar wefan 'GwerthwchiGymru', enw'r cynigwyr llwyddiannus am y gwaith yw Golwg360 a chwmni Newsquest.
Mae Newsquest yn un o gyhoeddwyr mwyaf y Deyrnas Unedig sydd yn darparu The National Wales, y South Wales Argus a'r Powys County Times ymysg eraill. Mae'n is-gwmni Gannett Inc o'r UDA.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau wrth Newyddion S4C: "Rydyn ni'n hapus i gadarnhau mai Corgi Cymru a Golwg 360 yw enwau'r gwasanaethau newyddion a gefnogir gan y grant a bod y naill wasanaeth yn perthyn i Newsquest a'r llall i Golwg Cyf. Bydd y gyllideb grant o’r Cyngor Llyfrau dim ond yn ariannu Corgi Cymru er mwyn creu a chyflwyno cynnwys Cymraeg."
Penderfynodd y Cyngor Llyfrau i ddyfarnu £100,000 yr un i Golwg360 a Corgi Cymru bob blwyddyn am y pedair blynedd nesaf yn dilyn proses o dendro.
Bydd y cytundebau newydd yn parhau o Ebrill 2022 tan Fawrth 2026.
Mewn datganiad, dywedodd y Cyngor Llyfrau fod y grantiau wedi eu dyfarnu "yn dilyn proses dendro agored pan wahoddwyd ceisiadau i ddarparu gwasanaeth newyddion digidol pwrpasol yn y Gymraeg."
Gweinyddir y grant gan y Cyngor Llyfrau ar ran Llywodraeth Cymru, gyda phanel annibynnol yn dyfarnu’r cyllid.
'Ymgysylltu â’r newyddion'
Dywedodd prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru Helgard Krause: “Pwrpas y grant yma ydy galluogi darpariaeth newyddion yn y Gymraeg a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i ansawdd ac amrywiaeth newyddiaduraeth yng Nghymru.
“Y nod yn y pen draw ydy cynyddu nifer y bobl, yn enwedig pobl ifanc, sy’n ymgysylltu â’r newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Dywedodd: “Cyflwynodd y ddau gwmni gynigion cyffrous a gwahanol i’r panel grantiau annibynnol gan ddangos sut y bydden nhw’n darparu gwasanaethau newyddion o ansawdd uchel a fydd yn apelio at ddarllenwyr ar draws Cymru, gyda straeon a chynnwys sydd yn berthnasol, yn hygyrch a chyda llais Cymreig cryf.
“Rydym ni’n falch iawn i allu dyfarnu’r cyllid grant i’r ddau gwmni a rhoi mwy o ddewis nag erioed i bobl dderbyn eu newyddion dyddiol yn y Gymraeg trwy amrywiaeth o blatfformau digidol.”
Mewn ymateb, dywedodd prif weithredwr dros dro Golwg Cyf Owain Schiavone: “Mae gennym gynlluniau cyffrous ynglŷn â sut i symud y gwasanaeth i gyfeiriad ychydig yn wahanol, gan ymateb i’r hyn rydym wedi’i ddysgu am y gynulleidfa ers lansio golwg360 yn 2009, yn ogystal â’r modd y mae’r byd newyddion wedi esblygu ers hynny."
Dywedodd cyhoeddwr Corgi Cymru Huw Marshall: “Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Llyfrau Cymru sydd wedi croesawu ein gweledigaeth ar gyfer creu gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg newydd a fydd yn targedu cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau Cymreig ôl-ddiwydiannol, yn ogystal â’r rheini sy’n byw mewn cymunedau Cymraeg mwy traddodiadol.”