Yr Ysgwrn i gynnig teithiau newydd wedi cyfnod heriol y pandemig
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnig teithiau newydd i ymwelwyr Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd.
Mae’r Ysgwrn, cartref hanesyddol y bardd Hedd Wyn, wedi gweld gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr dros y ddwy flynedd diwethaf yn sgil y cyfnodau clo a chyfyngiadau Covid-19.
Mewn ymgais i ddenu ymwelwyr eleni, mae’r Ysgwrn yn bwriadu cynnig taith o amgylch y ffridd, sef tir fferm Yr Ysgwrn – y tir a’r golygfeydd fyddai wedi ysbrydoli nifer o gerddi’r bardd.
Maent hefyd am gynnig taith dywys o amgylch pentref Trawsfynydd, i ddangos mannau pwysig megis ble gafodd Hedd Wyn ei eni, y capel oedd y teulu yn aelodau ynddo a hanes y gofeb yng nghanol y pentref.
Dywedodd Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth y Parc Cenedlaethol, sydd gyda chyfrifoldeb dros Yr Ysgwrn: “Mae’r cyfnod clo a’r cyfyngiadau dros y ddwy flynedd diwethaf wedi gwneud i ni edrych yn ehangach ar botensial yr Ysgwrn a sut y gallwn ni wneud gwell defnydd o’r gofod tu allan er mwyn rhoi darlun cyflawn o fywyd Hedd Wyn.”
'Rhedeg ar golled'
Fe wnaeth adroddiad llynedd codi cwestiynau am strategaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dros ddyfodol ei asedau – gan gynnwys adeilad hanesyddol Yr Ysgwrn.
Roedd hefyd yn nodi fod Yr Ysgwrn yn "rhedeg ar golled."
Wrth ymateb i Newyddion S4C llynedd dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Yr her am y flwyddyn i ddod yw adolygu sut mae’r cyhoedd yn ymateb i ddychwelyd i safleoedd megis Yr Ysgwrn ac mae cynlluniau wrth gefn mewn lle i ddelio ac unrhyw sefyllfaoedd ble mae risg masnachol i’r Awdurdod.”
Ychwanegodd Naomi Jones bod cynlluniau newydd Yr Ysgwrn yn rhai “cyffrous”.
“Fel mab fferm a bachgen ifanc, mae’n debyg y byddai wedi treulio cyfran helaeth o’i fywyd yn y ffridd neu y pentref, ac rydym yn awyddus i gynnwys yr amgylchedd ehangach y cafodd ei fagu ynddi yn ein teithiau tywys i grwpiau.
"Mi fydd y daith o amgylch y ffermdy dal i fod yn bwysig ac yn allweddol i roi darlun o fywyd Hedd Wyn, ond mi fydd y teithiau tywys yma yn gallu rhoi rhywbeth bach ychwanegol i grwpiau.
“Mae hefyd yn golygu y gall grwpiau, os ydyn nhw yn teithio o bell neu agos, wneud diwrnod ohoni yn Yr Ysgwrn a chael eu trochi yn yr hanes diddorol.”