Yr AS Llafur Hefin David wedi marw'n 47 oed
Yr AS Llafur Hefin David wedi marw'n 47 oed
Mae'r aelod Llafur o Senedd Cymru Hefin David wedi marw yn 47 oed.
Roedd yn cynrychioli etholaeth Caerffili lle cafodd ei eni a'i fagu ers 2016.
Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus meddai Heddlu Gwent.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan ddydd Mercher: “Rydym yn hynod drist o glywed am farwolaeth sydyn Hefin. Mae ein meddyliau gyda’i deulu yn yr amser ofnadwy hwn.
“Roedd Hefin yn aelod annwyl iawn o deulu Llafur. Gwasanaethodd Caerffili fel cynghorydd ac Aelod o’r Senedd gyda balchder ac angerdd.
“Roedd yn wleidydd rhagorol, yn gynnes ac yn frwdfrydig ac yn gyfathrebwr gwych – yn enwedig ar ran ei etholwyr. Bydd colled fawr ar ei ôl.”
Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Syr Keir Starmer fod Hefin David yn "llais pwerus ar gyfer pobl Cymru."
"Sicrhaodd fod pob person a chymuned yng Nghymru wedi cael y cyfleoedd a chefnogaeth yr oedden nhw yn eu haeddu," meddai.
"Yn aelod o'r Senedd dros Gaerffili, lle cafodd ei eni a'i fagu, roedd yn hynod falch o'i gymuned.
"Mae ein calonnau gyda'i deulu, a'r rhai a oedd yn ei adnabod a'i garu yn y cyfnod poenus hwn."
Wrth ymateb i'r newyddion am ei farwolaeth, dywedodd y Llywydd Elin Jones: "Mae’r newyddion trasig am farwolaeth Hefin wedi bod yn dorcalonnus i ni fel cymuned y Senedd. Mae ein meddyliau gyda’i bartner, ein cydweithiwr a'n ffrind, Vikki Howells AS a’i blant a'i deulu annwyl.
"Roedd Hefin yn llawn bywyd a brwdfrydedd dros ei etholwyr a'u hachosion. Roedd yn wleidydd angerddol, yn ffyddlon i'w blaid, ei wlad, a'i etholwyr. Roedd yn gallu gweithio'n effeithiol ar draws pleidiau a cheisio tir cyffredin.
"Roedd Hefin yn arbennig o boblogaidd ar draws y Senedd. Roedd ganddo’r ddyletswydd hefyd fel ein Comisiynydd â chyfrifoldeb dros Gyllid ac ymgymerodd â'r rôl honno yn ddiwyd ac yn fedrus.
"Mae'r newyddion yn dorcalonnus ac yn ein hatgoffa o ba mor fregus yw bywyd a'r angen i ni i gyd gefnogi ein gilydd."
Dywedodd Laura Anne Jones, aelod Reform yn y Senedd dros Ddwyrain De Cymru fod y newyddion wedi ei llorio.
"Roedd Hefin yn berson hyfryd. Be' bynnag fo'n gwahaniaethau gwleidyddol, roeddem yn cyd-dynnu. Roedd ganddo wastad air caredig a gwên," meddai.
'Argyfwng meddygol'
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gwent: "Cawsom ein galw i adroddiad o argyfwng meddygol mewn cyfeiriad yn Nelson am tua 18:55 ar ddydd Mawrth, 12 Awst.
"Fe wnaeth swyddogion fynychu ac ar ôl cael mynediad i'r eiddo, daethant o hyd i ddyn 47 oed yn anymwybodol."
Ychwanegodd y datganiad: "Fe wnaeth gweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd fynychu, a chadarnhau fod y dyn wedi marw; mae ei deulu yn ymwybodol ac yn derbyn cymorth."
Fe fydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r crwner mewn cysylltiad â'r farwolaeth.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mark Hobrough: “Mae fy meddyliau a’m cydymdeimlad diffuant yn mynd allan i holl deulu, ffrindiau a chydweithwyr Hefin yn ystod yr amser anodd hwn iddyn nhw.
“Ar ôl i mi ymuno â Heddlu Gwent fel prif uwch-arolygydd yr ardal sy’n cwmpasu Caerffili, gweithiais yn agos gyda Hefin ar sawl achlysur...
“Gwas cyhoeddus ymroddedig i Gaerffili, bydd ei ymrwymiad i’n cymunedau yn golled sylweddol.”
Gwleidydd ac addysgwr
Cyn cael ei ethol i’r Senedd, roedd Hefin David yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac roedd ganddo brofiad o weithio ac addysgu yn yr Almaen, gwlad Groeg, India a Tsieina.
Roedd yn ymddiddori ym maes datblygu a thwf cwmnïau bychain, cyflogaeth a chyflogadwyedd, mynediad i addysg bellach ac uwch, i'r rheini ag anghenion ychwanegol a datblygu cymunedau'r Cymoedd.
Derbyniodd radd BScEcon mewn Economeg a Gwleidyddiaeth a gradd MScEcon mewn Polisi Ewropeaidd o Brifysgol Caerdydd.
Cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn isetholiad ym mis Mawrth 2007 a bu’n gwasanaethu yno tan iddo roi’r gorau i’r rôl yn etholiadau llywodraeth leol 2017.
Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau rhwng 2012 a 2016.