Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn rhoi'r gorau i'w swydd am y tro i dderbyn triniaeth canser
Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi'r gorau i'w swydd am y tro wrth iddi dderbyn triniaeth feddygol am ganser.
Fe gafodd Ms Tierney ei phenodi i'r rôl ym mis Awst 2023, gan olynu Nigel Walker a gymerodd yr awenau dros dro wedi i Steve Phillips ymddiswyddo.
Dywedodd Abi Tierney mewn datganiad: “Nid yw’r penderfyniad i gamu nôl am y tro wedi bod yn hawdd ond mae’n rhaid i mi ganolbwyntio’n llwyr ar fy iechyd ac ar y broses o wella. ‘Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rwyf eisoes wedi ei derbyn gan fy nheulu, fy ffrindiau ac fy nghyd-weithwyr ac ‘rwy’n hyderus y bydd ein tîm rheoli’n parhau gyda’r gwaith yn fy absenoldeb.
“Hoffwn ofyn am breifatrwydd a dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn os gwelwch yn dda.”
Ychwanegodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood: “Hoffwn i ar ran holl aelodau’r Bwrdd ddymuno’r gorau i Abi ac fe wnawn yn siwr ei bod hi’n cael yr amser a’r gefnogaeth sydd angen arni yn ystod y cyfnod hwn.
“Fel Cadeirydd, fi fydd â’r cyfrifoldeb o lywio’r broses hon ac mae gennym dîm arweinyddol cryf i sicrhau bod y gwaith o ddydd i ddydd yn mynd yn ei flaen yn effeithiol. Bydd Alison Thorne yn fy nghefnogi yn ystod y broses hon."
Ms Tierney ydy'r fenyw gyntaf i fod yn brif weithredwr yr undeb.
Cyn ei phenodiad roedd Ms Tierney yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid y Swyddfa Gartref a bu'n gweithio fel Cynghorydd Moeseg yn y Swyddfa Gartref ac yn Gadeirydd eu Pwyllgor Pobl.
Mae gan Ms Tierney gysylltiadau teuluol cryf gyda'r Barri, wedi i'w thad gael ei fagu yno yn un o chwech o blant.
Roedd y teulu yn gefnogwyr rygbi Cymru brwd yn ogystal â chefnogi Clwb Rygbi'r Barri.