Pwllheli: Dyn yn parhau yn y ddalfa wedi'i gyhuddo o drywanu dau gymydog

Ffordd Mela

Fe fydd dyn o Bwllheli sydd wedi’i gyhuddo o drywanu dau gymydog yn parhau yn y ddalfa ar ôl i’w gais am fechnïaeth gael ei wrthod.

Mae Derwyn Williams, o Ffordd Mela, Pwllheli wedi’i gyhuddo o glwyfo Kenneth Coles a Phillip Todd yn fwriadol ar 11 Awst.

Fe wnaeth ymddangos o flaen y barnwr rhanbarthol yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.

Cafodd cais am fechnïaeth ei wneud gan y bargyfreithiwr Sion Hughes, yn amddiffyn Williams, ond cafodd ei wrthod.

Fe wnaeth y barnwr Gwyn Jones orchymyn i Williams barhau yn y ddalfa hyd nes ei wrandawiad llys nesaf, yn Llys y Goron Caernarfon ar 15 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.