'Rwyt ti’n galw nhw’n Balestiniaid, rwy’n galw nhw’n lwythi Arabaidd sy'n byw yn Israel'

Newyddion S4C
Arieh King - dirprwy faer Jerwsalem .jpg

Mae'r gohebwyr Gwyn Loader a Liam Evans ar y Lan Orllewinol yn gwneud cyfres o adroddiadau arbennig ar gyfer Newyddion S4C.

“Does dim gobaith o gael heddwch gyda nhw, achos dy’n nhw ddim yn gweld heddwch fel rhan o’u bydolwg.”

Tu ôl i’w ddesg dafliad carreg o hen ddinas Jerwsalem, mae neges Arieh King yn ddigyfaddawd. 

Gyda’r rhyfel yn Gaza yn hawlio sylw yn Israel, y Dwyrain Canol a’r byd, mae tensiynau a gwrthdaro cynyddol ar y Lan Orllewinol hefyd. 

Mae’r Deyrnas Unedig, a gwledydd eraill fel Ffrainc, Canada ac Awstralia wedi dweud yn ddiweddar y byddan nhw’n ymuno â’r 147 o aelodau’r Cenhedloedd Unedig sydd yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd. 

Ond wfftio’r syniad mae dirprwy faer Jerwsalem, Arieh King:

“Dwi’n poeni dim am y rhagrithwyr yma,” meddai.

“Dim y twpsyn Starmer, dim Macron sydd yn wrth-Semitaidd. Dim y Cenhedloedd Unedig.”

“Dwi’n poeni am oroesi. Ac yn y Dwyrain Canol, un ffordd sydd o oroesi. Sef bod yn gryf.”

Image
Arieh King - dirprwy faer Jerwsalem
Arieh King - dirprwy faer Jerwsalem

Yn ôl Yuval Inbar, sydd yn dod o Israel ac wedi dysgu Cymraeg, mae cymedroldeb wedi diflannu yn Israel ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023. 

Cafodd dros fil o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau hynny a 251 o bobl eu cipio a’u cymryd yn wystlon i Gaza. 

Dywed Yuval bod nifer o bobl yn Israel wedi symud i’r dde yn wleidyddol ers hynny, a mwy felly yn cytuno â rhethreg Arieh King. 

Yn ôl Yuval, mae cydymdeimlad ganddi at Balestiniaid Gaza. Ond mae’n dweud bod hi’n cael ei galw yn eithafwr am ddweud hynny. “Cer i fyw yno os ti’n caru nhw gymaint” yw’r neges mae’n derbyn yn rheolaidd meddai. 

Ac er y byddai Yuval yn cefnogi’r syniad o greu gwladwriaeth Balesteinaidd, dyw hi chwaith ddim yn gweld sut allai hynny ddigwydd am flynyddoedd lawer. 

“Ar hyn o bryd, dw’i ddim yn meddwl gall Palesteina fod yn wlad. Mae llawer o broblemau. Mae Hamas [yn un o’r rheiny].”

“Yn y dyfodol, ddim y flwyddyn nesaf, ddim mewn 10 mlynedd, ond yn y dyfodol dwi’n meddwl allai fod yn bosibl.”

Image
Yuval Inbar
Yuval Inbar

Fel newyddiadurwyr rhyngwladol, does dim hawl ganddon ni i deithio i Gaza a gweld gyda’n llygaid ein hunain yr hyn sydd yn digwydd yno. 

Ond ry’n ni yn cael teithio i diriogaeth Balesteinaidd y Lan Orllewinol a siarad â phobl yno. 

Yn Sinjil ddeufis nôl, cafodd dau o Balestiniaid eu lladd gan setlwyr. 

Mae maer y dref, Motaz Tafsah, yn cyhuddo llywodraeth Israel o annog setliadau newydd, sydd yn anghyfreithlon yn ôl y llys cyfiawnder rhyngwladol, a sathru ar hawliau’r Palestiniaid. 

“Mae’r awdurdodau a’r setlwyr yn ein meddiannu ac mae llywodraeth adain dde Israel yn eu cefnogi,” meddai.

“Maen nhw wedi rhoi’r golau gwyrdd i’r setlwyr ddiweddu ein breuddwyd o ffurfio gwladwriaeth Balesteinaidd.”

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod nifer cynyddol o ymosodiadau yn erbyn Palestiniaid yn digwydd ar y Lan Orllewinol. 

Image
Arieh King - dirprwy faer Jerwsalem 2 .jpg
Gohebwyr Newyddion S4C Gwyn Loader a Liam Evans yn holi Arieh King

Yn Jerwsalem, dyw’r dirprwy faer ddim yn talu unrhyw sylw. 

“Mae’r Cenhedloedd Unedig yn Natsïaid,” meddai “Yn y ddwy flynedd diwethaf, mae arweinwyr y Cenhedloedd Unedig yn fudiad sydd yn ymladd yn erbyn pobl Iddewig.”

Beio Palestiniaid am y gwrthdaro presennol mae e. 

“Allwn ni fyw yn heddychlon gyda nhw os dderbynian nhw un peth. Sef os ydyn ni’n ennill y rhyfel, bod nhw’n cael eu tawelu.”

“Fyddan nhw fyth yn gallu ymosod arnon ni eto fel ddigwyddodd ar Hydref y seithfed.”

Mae gwrthdaro rhwng Israeliaid a Phalestiniaid yn grachen sy’n cael ei phigo yn gyson yn y rhanbarth yma. 

Ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023, mae’r grachen nawr yn glwyf agored. 

Mae cyd-fyw heddychlon rhwng Israeliaid a Phalestiniaid i weld yn bell i ffwrdd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.