Hysbyseb swydd yn arwain at ddyfalu am waith niwclear newydd i'r Wylfa
Mae manylion mewn hysbyseb am swydd gan gwmni Great British Energy - Nuclear (GBE-N) wedi arwain at ddyfalu bod safle'r Wylfa ym Môn wedi ei ddewis ar gyfer adweithydd niwclear bychan newydd.
Mae'r Wylfa yn geffyl blaen i fod yn gartref i un o'r adweithyddion bychan newydd yn y DU, ar ôl i sefydliad Great British Nuclear brynu'r safle.
Yr Wylfa a safle yn Oldbury-on-Severn yn Sir Gaerloyw, yw'r ddau safle y mae GBE-N wedi dweud yn flaenorol ei fod yn eu hystyried ar gyfer datblygu adeithyddion niwclear bychan.
Mae'r cwmni'n mynnu nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar y safle terfynol eto.
Cyhoeddwyd hysbyseb swydd gan GBE-N ar 11 Awst, sef swydd ar gyfer Arweinydd Safle.
Y Gymraeg a chynllunio
Yn y swydd ddisgrifiad, mae'n nodi fod dealltwriaeth am gynllunio yng Nghymru a rheolau amgylcheddol yn fanteisiol, yn ogystal â bod yn rhugl yn y Gymraeg.
Mae'r swydd ddisgrifiad yn nodi y byddai'r Arweinydd Safle yn rôl arweinyddiaeth hanfodol o fewn rhaglen ddatblygu adweithydd niwclear bychan, yn gyfrifol am reoli'r safle o ddydd i ddydd.
Mae'r cyfrifoldebau hefyd yn datgan fod yn rhaid i'r Arweinydd Safle "gysylltu gyda darparwyr gan gynnwys WWA, SPEN, National Grid a BT ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac ymateb brys".
SPEN ydy cwmni SP Energy Networks, sydd yn gweithredu yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Yr Wylfa, ond nid yn Sir Gaerloyw, lle mae dyfalu am adweithydd bychan newydd yn Oldbury hefyd.
Oldbury
Ers i Newyddion S4C gysylltu gyda nhw, cafodd ail swydd ei hysbysebu am Arweinydd Safle yn Oldbury ddydd Mercher - gyda'r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol yn y swydd ddisgrifiad yma hefyd.
Nid yw'r hysbyseb yma am safle Oldbury yn cynnwys yr un darparwyr ynni â'r hysbyseb arall, gyda chwmnïau Severn Trent, NGD, National Grid a BT yn cael eu rhestru ynddo.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Great British Energy - Nuclear eu bod "ar hyn o bryd yn recriwtio Arweinwyr Safle ar gyfer pob un o’n safleoedd, Oldbury-on-Severn a'r Wylfa.
"Bydd penderfyniadau terfynol ynghylch lle y bydd Adweithyddion Niwclear Bychan cyntaf y DU yn cael eu hadeiladu yn cael eu gwneud yn ddiweddarach eleni."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU "nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud eto ar leoliad safle ar gyfer yr adweithyddion niwclear bychan".
Cadarnhad
Dywedodd Llywodraeth y DU wrth Newyddion S4C ym mis Mehefin y bydd union leoliadau'r adweithyddion yn cael eu cadarnhau yn hwyrach ymlaen eleni.
Mae gan yr Wylfa "nodweddion cadarnhaol ar gyfer bod yn gartref i safle niwclear newydd," meddai'r llywodraeth ar y pryd.
Yr Wylfa a safle yn Oldbury-on-Severn yn Sir Gaerloyw, yw'r ddau safle y mae GBE-N wedi dweud yn flaenorol ei fod yn eu hystyried ar gyfer defnyddio SMRs.
Fe gafodd cynlluniau i ystyried safle Trawsfynydd yng Ngwynedd fel safle posib ar gyfer adweithydd niwclear bychan eu diystyrru y llynedd.
Dywedodd GBE-N yn flaenorol na fyddai safle Trawsfynydd, a oedd yn gweithredu fel gorsaf bŵer tan 1991, "efallai yn gallu datblygu mor gyflym â rhai safleoedd posibl eraill".
Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Ceidwadwyr o dan arweinyddiaeth Rishi Sunak yn 2024 mai safle'r Wylfa ydy'r dewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd.
Fe ddywedodd y Llywodraeth honno y byddai'r orsaf yn darparu "digonedd o ynni rhad, glan a dibynadwy ar gyfer chwe miliwn o gartrefi am 60 mlynedd".