Y dreth etifeddiaeth yn 'faich a phwysau anhygoel ar bobl ifanc'
Y dreth etifeddiaeth yn 'faich a phwysau anhygoel ar bobl ifanc'
Mae'r dreth etifeddiaeth yn 'faich a phwysau anhygoel ar bobl ifanc' yn ôl nifer o ffermwyr ifanc yn Sioe Môn.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol sy'n werth dros £1 miliwn.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud na fydd hynny'n effeithio ar fwyafrif y ffermydd gan na fydd yn rhaid i dri chwarter ohonynt dalu “unrhyw dreth o gwbl.”
Wrth siarad ar Faes Primin Môn yr wythnos hon, fe ddywedodd cyn-gadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Môn a Chymru, Rhys Richards, ei fod yn pryderu yn fawr am oblygiadau'r dreth ar ffermwyr ifanc.
"Ma’r baich ar bobl ifanc yn dilyn y dreth etifeddiaeth ‘ma, mae o’n bwysau anhygoel i bobl ifanc, gorfod meddwl yn bell i’ch dyfodol chi, ond hefyd i ddyfodol eich plant chi, a sut mae o’n effeithio cenedlaethau y dyfodol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae o’n rhoi ansicrwydd mawr i bobl ifanc, meddwl mynd i fewn i’r byd amaethyddol ond hefyd ydi o werth cario ‘mlaen a parhau yn y sector a ma’ hynny yn torri calon pobl ifanc."
Ychwanegodd Mr Richards: "I feddwl bod eich cyn-deidiau, a cenedlaethau o'ch blaen chi wedi gweithio'r tir 'dach chi'n byw arna fo, rhoi'r gwrtaith yn y tir, ffermio'r tir, codi safon y stoc, i feddwl 'ydi o werth mynd mewn i'r byd amaeth neu ydi o werth mynd i chwilio am yrfa wahanol?'
"Ma' hynny yn groesbwynt mewn bywyd person ifanc, ma'n torri calon person ifanc fel fi i feddwl oes 'na ddyfodol i bobl ifanc yn y sector amaethyddol yng Nghymru?"
Dewi Davies ydy Cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru eleni.
Ag yntau yn 26 oed ac yn rhan o fferm deuluol, dywedodd ei fod yn pryderu am yr effaith y gall bod yn berchen ar asedau mawr yn ifanc ei gael ar bobl ifanc.
"Ma’ mis Ebrill nesa yn agos iawn, a fel rhywun sydd yn ifanc, o fferm deuluol, ma’ fe yn rhywbeth sydd yn effeithio ni, a ma’ isie meddwl ymlaen o ran y teulu, siwt ma’r dyfodol yn mynd i fod," meddai.
Ychwanegodd Mr Davies: "Ond y broblem yw i gael y wybodaeth, y cyngor a’r bobl iawn i helpu yn y broses ‘na, a ma’ nhw gyd yn fisi, a rhwng nawr a mis Ebrill, ma’ hwnna yn mynd i fod yn broblem."
Ychwanegodd Cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Môn, Meinir Parry: "Ma’n faich mawr a rhywbeth mawr i bawb orfod meddwl amdano, ma’ ‘na gymaint o bethe erill ar feddwl ffermwyr, gymaint o reolau, gymaint o betha i’w dilyn ‘lly, dwi’n meddwl mae o ella yn gyfle hefyd i gael y sgyrsiau anodd."
Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw’n disgwyl i'r newidiadau effeithio ar 500 o ffermydd cyfoethocaf gwledydd y Deyrnas Unedig.
Mae'r newidiadau ynghylch y dreth etifeddiaeth hefyd yn bryder i rai masnachwyr, gan gynnwys Clwyd Jones sy'n gweithio i gwmni Clwyd Agricultural yn Nyserth, Sir Ddinbych.
"Dwi’n meddwl bod y busnes treth etifeddiaeth ‘ma, dwi’n meddwl na ansicrwydd ‘di gelyn pob busnes ma’ rwbeth sy’n creu ansicrwydd yn meddwl y ffarmwr neu’r cwsmer yn bownd o gael effaith arna ni," meddai.
"A wedyn os ‘di bobl yn cymryd mwy i ystyried, mwy i feddwl am y pethe ’ma, mae o’n cael effaith ar ein gwerthiannau ni."
Ychwanegodd Mr Jones fod angen mwy o sicrwydd ynghylch y newidiadau fel bod ffermwyr yn fwy tebygol o fuddsoddi mewn peiriannau cwmnïau.
"Bod 'na fwy o sicrwydd ar gyfer y dyfodol a lle ma' nhw'n sefyll, bo' nhw'n teimlo bod 'ne lai o daro ar eu poced nhw a mewn sefyllfa well i fuddsoddi mewn peirannau a'r math o offer 'dan ni'n werthu."
Mae Huw Jones yn rheolwr gwerthu i gwmni Mona Tractors, ac fe ddywedodd fod yna ostyngiad wedi bod yn hyder ffermwyr yn y farchnad.
"‘Dan ni’n teimlo bod confidence yn y farchnad efo ffarmwrs, mae o definitely i lawr," meddai.
"Ma’ ‘na definitely llai o wario, dwi’n meddwl bod y farchnad tractors i lawr, yn y dwy flynedd dwytha rili, ‘dan ni’n gobeithio fydd petha yn gwella, ond definitely ma’r ddwy flynedd dwytha, ma’ petha’ wedi bod i lawr.
Ychwanegodd: "Dwi 'di bod yn siarad efo lot o gwsmeriaid, a mae o'n effeithio rhei cwsmeriaid yn fwy na'i gilydd.
"Ma' rhei pobl yn ofnadwy o ypset amdana fo, a 'dach chi'n gallu deall pam, a ma' nhw'n rili poeni amdana fo, a wedyn 'dyn nhw obviously ddim isio gwario a stretchio eu hunain achos bob dim sy'n digwydd."
'Ymrwymiad cadarn'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae ein hymrwymiad i ffermio a diogelwch bwyd yn gadarn, a dyna pam rydym wedi clustnodi £11.8 biliwn, sef y swm uchaf erioed, i ffermio cynaliadwy a chynhyrchu bwyd.
"Rydym hefyd wedi penodi cyn-lywydd yr NFU, y Farwnes Minette Batters, i argymell diwygiadau newydd i hybu elw ffermwyr.
"Ni fydd y newidiadau yn effeithio ar y rhan fwyaf o ystadau sy’n hawlio Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Busnes. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 40% o’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol - gwerth £219m - wedi’i gyfeirio at 117 o ystadau yn unig. Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at wasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd yn lle hynny."