
Yr Ysgwrn: Cwestiynu ‘gweledigaeth a strategaeth’ Parc Cenedlaethol Eryri
Mae adroddiad wedi codi cwestiynau am strategaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dros ddyfodol ei asedau – gan gynnwys adeilad hanesyddol Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd.
Awdurdod y Parc sydd yn gyfrifol am reoli cartref hanesyddol y bardd Hedd Wyn, ac mae’r safle, ynghyd â Phlas Tan y Bwlch ym Maentwrog a Hafod Eryri ar gopa’r Wyddfa wedi dod o dan chwyddwydr corff Archwilio Cymru mewn adroddiad diweddar.
Mae Archwilio Cymru yn gorff annibynnol sydd yn archwilio cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth Newyddion S4C fod yr archwiliwyr wedi nodi fod eu sefyllfa ariannol a systemau llywodraethu yn gadarn, a’u bod wedi addasu’n gyflym i’r pandemig gan ddangos gwydnwch wrth ddarparu gwasanaethau.
Yr Ysgwrn
Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri grant o £2.8m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2014 i adnewyddu safle’r Ysgwrn, yn dilyn grant o £150,000 yn 2012 i baratoi cynlluniau i ddatblygu’r safle.
Dywed adroddiad Archwilio Cymru fod Yr Ysgwrn yn rhedeg ar golled, a bod hyn yn “codi cwestiynau ynghylch gweledigaeth a bwriad strategol hirdymor yr Awdurdod, yn enwedig o ystyried pwyslais Llywodraeth Cymru ar yr angen i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol fynd ar drywydd cyfleoedd masnachol.
“Mae ei ddiffyg strategaeth drosfwaol sy’n nodi ei fwriad a’i rôl o ran rheoli ei holl asedau pwysig yn golygu bod yr Awdurdod yn dal i fod yn adweithiol gan fwyaf i risgiau hirdymor”, medd adroddiad Archwilio Cymru.
Hafod Eryri
Dywed yr adroddiad fod adeilad Hafod Eryri ar ben yr Wyddfa wedi cau yn ystod y pandemig, a bod hyn wedi gwaethygu “materion cynnal a chadw a arweiniodd at ddifrod sylweddol i’r adeilad. Yr Awdurdod sydd â chyfrifoldeb am gynnal a chadw’r adeilad ac o ystyried bod yr hwch wedi mynd drwy'r siop i Carillion yn 2018, mae bellach yn wynebu costau atgyweirio a allai fod yn sylweddol.”
Yn achos safle Plas Tan y Bwlch, dywed yr adroddiad fod y pandemig wedi “amlygu anawsterau a oedd yn dra hysbys ac yn bodoli eisoes.
“Mae’r Awdurdod bellach wedi mabwysiadu model busnes diwygiedig sy’n cynnwys rhedeg llety gwely a brecwast. Fodd bynnag, mae wedi ymrwymo i roi cymhorthdal i Blas Tan y Bwlch. Bydd angen i Aelodau fonitro perfformiad a chraffu arno’n barhaus i gael sicrwydd bod y model busnes diwygiedig yn cael ei wireddu.”

Dibyniaeth ar grantiau
Elfen arall o waith yr Awdurdod oedd dan chwyddwydr adroddiad ‘Gwasanaethau Cydnerth a Chynaliadwy yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’ oedd y ddibyniaeth ar brosiectau oedd wedi eu hariannu gan grantiau.
“Nid yw hyn heb ei risgiau”, medd yr adroddiad, gan ychwanegu fod mwy o ffrydiau incwm o ffynonellau amrywiol yn “gosod pwysau ar swyddogion i’w rheoli, ac mae angen i systemau rheolaeth ariannol weithio’n effeithiol i fonitro gwariant o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
“Canfuom fod swyddogion dan bwysau, a bod gweithio o bell yn ystod y pandemig wedi amlygu gwendidau gyda’r meddalwedd rheolaeth ariannol fewnol a ddefnyddir, sydd wedi achosi rhwystredigaeth ymhlith deiliaid cyllidebau.”
‘Gwendidau gweithredol’
Ychwanegodd yr archwilwyr fod “gwendidau gweithredol mewn systemau wedi cyfrannu at risg lle aeth yr Awdurdod i berygl o fethu â chyrraedd ei dargedau gwariant ar brosiect a ariannwyd â grant ym mis Ionawr 2020.”
Dywed yr archwilwyr hefyd fod pwyslais yr Awdurdod ar adnabod ffynonellau cyllid newydd yn golygu bod nifer o swyddogion yn cael eu penodi ar gontractau byrdymor i gyflawni prosiectau penodol.
“Mae’r swyddogion prosiect hyn yn aml yn gadael yr Awdurdod cyn i’r prosiect gael ei gwblhau, gan greu risgiau i gyflawni’r prosiect a rhoi pwysau ar gydweithwyr eraill. Mae hefyd yn creu risg o golli cyfleoedd i werthuso a dysgu gwersi ar lefel gorfforaethol.”
Ymateb yr Awdurdod
Wrth ymateb i Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn yn llawn ymwybodol o’r sefyllfa gyda’r Ysgwrn, “ac mae hyn yn thema cyffredin mewn sawl canolfan dreftadaeth o ganlyniad i’r pandemig.
“Mae’r Awdurdod wedi mabwysiadau cynllun busnes ar gyfer yr Ysgwrn ac mae incwm masnachol yn rhan o hyn. Yr her am y flwyddyn i ddod yw adolygu sut mae’r cyhoedd yn ymateb i ddychwelyd i safleoedd megis Yr Ysgwrn a mae cynlluniau wrth gefn mewn lle i ddelio a unrhyw sefyllfaoedd ble mae risg masnachol i’r Awdurdod.”
‘Cynllun busnes amgen’
Wrth gyfeirio at sefyllfa Plas Tan y Bwlch, dywedodd llefarydd fod y galw am gyrsiau galwedigaethol wedi gwanhau dros y blynyddoedd “ac mi roedd hi’n angenrheidiol mabwysiadu cynllun busnes amgen er mwyn sicrhau bod Plas Tan y Bwlch yn ffynnu ac yn parhau i fod yn berthnasol i waith yr Awdurdod.
“Mae’r model busnes newydd hefyd yn anelu warchod treftadaeth yr adeilad rhestredig yn ogystal a chynnal cymaint o swyddi a phosib.”
‘Pwysau ychwanegol’
Dywedodd yr Awdurdod nad oedd yr adroddiad yn feirniadol o’u dibyniaeth ar grantiau, “ond yn hytrach yn amlygu y pwysau ychwanegol sydd yn cael ei rhoi ar unrhyw gorff trwy weinyddu unrhyw gynllun grant.
“Mae adroddiad Archwilio Cymru yn cydnabod bod rhaid i’r Awdurdod ymgeisio am ffynhonellau amgen o gyllid er mwyn cyflawni ei bwrpasau a bod yr angen yma yn deillio o doriadau grant crai y Parciau Cenedlaethol.
“Mae gan yr Awdurdod enw da o reoli cynlluniau grant uchelgeisiol a strategol ers ei sefydlu yn 1996 a rydym yn lwcus iawn o staff medrus all gyflawni cymaint gyda arian grant.”
Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’r Awdurdod yn sylweddoli y pwysau ychwanegol sy’n deillio o rheoli cynlluniau grant tymor byr yn rhoi ar unrhyw gorff a byddwn nawr yn penodi swyddogion i ymateb.”