Jacob Rees-Mogg yn weinidog cyfleoedd Brexit wrth i Boris Johnson ad-drefnu ei gabinet

Jacob Ress-Mogg

Mae Jacob Rees-Mogg wedi ei benodi yn weinidog cyfleoedd Brexit ac effeithlonrwydd Llywodraeth y DU, wrth i Boris Johnson ad-drefnu ei gabinet.

Bydd Mark Spencer yn cymryd lle Mr Rees-Mogg fel arweinydd Tŷ'r Cyffredin. 

Hefyd, mae'r Cymro Cymraeg sy'n hanu o Sir Fôn, Stuart Andrew, AS Pudsey, yn symud o’i rôl fel dirprwy brif chwip i fod yn weinidog tai yn adran Michael Gove.

Daw’r newidiadau yng nghanol cyfnod cythryblus i Boris Johnson, wrth i fwy o Geidwadwyr gwestiynu doethineb ei sylwadau ffug am Syr Keir Starmer, wedi i'r arweinydd Llafur gael ei dargedu gan brotestwyr yn hwyr brynhawn Llun.  

Mae Boris Johnson eisoes wedi penodi cyfarwyddwr cyfathrebu a phennaeth staff newydd dros y penwythnos. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Llywodraeth DU drwy Flickr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.