Penodi Steve Tandy fel hyfforddwr rygbi Cymru

Penodi Steve Tandy fel hyfforddwr rygbi Cymru

Mae Steve Tandy wedi ei benodi yn brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru.

Mae’r Cymro, 45 oed, wedi ei benodi ar ôl treulio chwe blynedd fel rheolwr amddiffyn Yr Alban.

Roedd hefyd yn hyfforddwr amddiffyn ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 2021.

Cyn ei gyfnod yn Yr Alban, roedd yn brif hyfforddwr gyda'r Gweilch am chwe blynedd rhwng 2012 a 2018, gan ennill y Pro 12 yn ei dymor cyntaf wrth y llyw.

Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, fe chwaraeodd Tandy i'r Gweilch ac i Gastell-nedd.

Mae Tandy, sy’n wreiddiol o bentref Tonmawr, ger Castell-nedd, yn olynu Warren Gatland, a wnaeth adael y swydd yng nghanol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe aeth hyfforddwr Caerdydd, Matt Sherratt, ymlaen i gymryd yr awenau am dair gêm yn y bencampwriaeth, yn ogystal â thaith Cymru i Japan fis yma, lle enillodd y tîm am y tro cyntaf ers Hydref 2023.

Dywedodd Tandy ei fod yn edrych ymlaen at "chwarae fy rhan wrth i ni ail-adeiladu rygbi Cymru a’n harwain at fod yn gystadleuol gyda'r gwledydd gorau yn y byd unwaith eto."
“Mae hyn yn fraint ac yn anrhydedd enfawr," meddai.
 
"Rwy'n gyffrous am y potensial sydd gennym yng Nghymru ac mae agwedd weithgar y garfan bresennol yn cynnig gwir obaith i ni.
 
"Mae gemau Cyfres yr Hydref yn gyfle gwych i ni brofi ein hunain yn erbyn rhai o fawrion y gamp ar hyn o bryd."
 
'Cymro balch'
 
Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru fod ei benodiad yn "reiddiol" i strategaeth yr undeb.
 
“Daeth Steve i'r amlwg fel yr ymgeisydd cywir i’w benodi, ac rydym yn gwybod ein bod wedi sicrhau'r hyfforddwr gorau ar gyfer y swydd.
 
"Fel Cymro balch hefyd, bydd yn gallu tynnu pobl at ei gilydd fel bo pawb yn tynnu i’r un cyfeiriad cadarnhaol.

"Ein gwaith ni fel Undeb yw sicrhau bod gan Steve y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arno i lwyddo yn y rôl hon."
 
Yr Ariannin fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yng nghyfnod Tandy, wrth i'r Pumas ymweld â Chaerdydd yng Ngemau'r Hydref ar 9 Tachwedd 2025.
 
Bydd Cymru hefyd yn wynebu Japan, Seland Newydd a phencampwyr y byd, De Affrica ym mis Tachwedd.
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.