Disgwyl cyhoeddi dogfennau Jeffrey Epstein yn yr UDA
Mae disgwyl y bydd dogfennau Epstein yn cael eu dangos i'r cyhoedd yn yr Unol Daleithiau'n ddiweddarach dydd Gwener, yn dilyn dadlau gwleidyddol ffyrnig dros eu rhyddhau.
Bu farw'r pedoffeil a'r biliwnydd mewn carchar yn 2019.
Rhaid i Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau gyhoeddi pob ffeil sy'n gysylltiedig â'i hymchwiliad i Epstein erbyn 19 Rhagfyr er mwyn cydymffurfio â therfyn amser cyfreithiol.
Cafwyd hyd i Epstein yn farw yn ei gell mewn carchar ffederal ym Manhattan, Efrog Newydd, ym mis Awst 2019 tra'r oedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiadau o fasnachu menywod at ddibenion rhywiol.
Dyfarnwyd bod ei farwolaeth yn achos o hunanladdiad ar y pryd.
Deddfwriaeth
Llofnododd Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump ddeddfwriaeth fis diwethaf i sicrhau bod y dogfennau'n cael eu rhyddhau, er iddo wrthod eu datgelu o'r blaen gan honni bod y mater yn "dwyll gan y Democratiaid".
Amser a ddengys os bydd y dogfennau'n cynnwys unrhyw wybodaeth am Andrew Mountbatten-Windsor, wedi i'w gysylltiad ag Epstein arwain at ei gwymp sylweddol o fywyd cyhoeddus.
Mae Andrew wedi bod yn y penawdau yn ystod y misoedd diwethaf ar ôl i rai o'i ohebiaeth gydag Epstein gael eu cyhoeddi mewn dogfennau a ryddhawyd o ystâd Epstein trwy ymgyrchu'r Democratiaid ar Bwyllgor Goruchwylio Tŷ'r Unol Daleithiau.
Arweiniodd hyn at y Brenin Charles yn atal ei frawd yn swyddogol rhag arddel ei deitlau brenhinol.
Honiadau
Mae'r cyn-ddug wedi wynebu honiadau ers blynyddoedd ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar Virginia Giuffre yn ei harddegau ar ôl iddi gael ei masnachu gan Epstein.
Mae Andrew yn gwadu'r cyhuddiadau'n gryf.
Talodd filiynau i Ms Giuffre, menyw y mae wedi honni nad yw erioed wedi cwrdd â hi, i setlo achos hawliad ymosodiad rhywiol sifil yn 2022.
Mae degau o filoedd o gofnodion yn ymwneud ag Epstein a'i gyn-gariad Ghislaine Maxwell eisoes wedi'u rhyddhau trwy achosion sifil a throseddol yn yr UDA.
Cafodd casgliad newydd o ddelweddau o ystâd Epstein eu rhyddhau ddydd Iau gan y Democratiaid hefyd.