Buddsoddiad o £2.5m yn sicrhau dyfodol pwll nofio Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Fe fydd pwll nofio Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn cael ei ail-adeiladu wedi buddsoddiad £2.5m.
Fe gafodd pwll nofio cyntaf Gwersyll Llangrannog ei agor yn yr 1970au, gyda phlant a phobl ifanc yn ei ddefnyddio dros y degawdau.
Fe fydd y prosiect newydd yn cynnwys adeiladu pwll 10m x 20m mewn adeilad pwrpasol, creu cyfleusterau newid newydd a hygyrch i bawb, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn, a gosod offer modern i wella effeithlonrwydd ynni, a lleihau allyriadau carbon a chostau ynni.
Dywed Urdd Gobaith Cymru y bydd y datblygiad, yn sgil y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn ffordd o sicrhau darpariaeth ddibynadwy drwy gydol yr wythnos am y rhan helaeth o'r flwyddyn, a helpu i gynnal dwy swydd llawn amser newydd yn ogystal â swyddi presennol.
Mae gan Wersyll Llangrannog 100 o aelodau o staff, ac mae 60% ohonynt o dan 25 oed, a dyma'r cyflogwr trydydd sector fwyaf yng Ngheredigion.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’r pwll nofio wedi bod yn rhan hanfodol o gynnig Gwersyll Llangrannog ers yr 1970au.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn darparu cyfleuster dibynadwy, saith diwrnod yr wythnos sy’n hyrwyddo iechyd a lles, yn creu swyddi newydd, ac yn gwneud y pwll yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a’r rhai sydd â symudedd cyfyngedig.
"Trwy leihau ein hôl troed carbon, ac ehangu cyfleoedd ar gyfer mynediad i’r gymuned, bydd yr ailddatblygiad hwn yn darparu manteision parhaol i Langrannog a’r gymuned ehangach."
Ychwanegodd Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog: "Sefydlwyd Gwersyll Llangrannog yn 1932 fel gwersyll parhaol cyntaf Urdd Gobaith Cymru, ac ers hynny, mae bron i ddwy filiwn o blant a phobl ifanc wedi creu atgofion yma – ac wedi dysgu, chwerthin a thyfu drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae’r datblygiad yma’n golygu y gallwn barhau â’r etifeddiaeth honno am genedlaethau i ddod. Nid ail-adeiladu pwll yw hyn yn unig; ni’n diogelu lle sydd wedi siapio bywydau ifanc a chymunedau ers bron i ganrif."