Dynes ifanc yn hyrwyddo gofal iechyd meddwl ar ôl i'w chariad ladd ei hun

Dynes ifanc yn hyrwyddo gofal iechyd meddwl ar ôl i'w chariad ladd ei hun

Dair blynedd ers i'w chariad ladd ei hun, mae dynes ifanc o Faldwyn yn un o Hyrwyddwyr Ffermio'r Dyfodol sydd yn rhoi cymorth i ffermwyr ifanc sydd yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl.

Ym mis Ebrill 2022,  fe wnaeth Elin Lewis o Lanrhaeadr-ym-Mochnant ddarganfod corff ei chariad.

Dywedodd wrth Newyddion S4C bod y profiad hwnnw yn "sioc" iddi.

"Sioc mawr i ni gyd ac o’n i, ddaru ni ffeindio fo... dyna be sy’ ‘di rhoi fi ar  y pafin ‘ma rili, i gweithio efo mwy o bobl i neud yn siŵr bod pobl yn siarad amdano, pobl yn cael cymorth ma’ nhw angen," meddai.

“O’n i mewn gwesty ben fy hun, o’n i’n teimlo bach yn fel styc fanna, be’ dwi’n neud nesa’.

“O’dd o'n lot wedyn, goro’ delio efo popeth ar ôl hefyd.

“Dwi wastad ‘di bod yn rhywun head down, carry on, ond ddaru fi sylwi yn quick allwch chi ddim neud hynna o hyd."

'Rhwystr'

Yn ôl ymchwil ar ôl pandemig Covid-19,  dywedodd 88% o ffermwyr ifanc mai iechyd meddwl gwael oedd un o'r problemau mwyaf wrth weithio yn y diwydiant amaeth.

Dywedodd yr elusen Farming Community Network eu bod yn derbyn hyd at 350 o alwadau'r mis i'w llinell gymorth, gyda sawl un ohonynt gan ffermwyr sydd yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl.

Fe aeth Elin Lewis at elusen iechyd meddwl DPJ am gymorth.

“Es i gofyn am help efo DPJ a dyna be’ dwi’n neud lot o gwaith efo ‘wan ‘di cael pobl i actually ffonio fyny pethau fel y Samaritans a DPJ achos ma’ lot o ansicrwydd o be’ sy’ mynd i ddigwydd pryd ‘da chi’n ffonio pobl fyny.

“A dwi’n meddwl dyna ‘di’r barrier lot o’r amser i stopio pobl ffonio ydy be’ sy’ mynd i ddigwydd unwaith ‘da chi yn ffonio rhywun."

Image
Sian Jones, Samariaid Cymru
Sian Jones o Samariaid Cymru

Mae Elin Lewis yn un o gannoedd o Hyrwyddwyr Ffermio’r Dyfodol Samariaid Cymru.

Bydd y Samariaid yn gweithio gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru "i dorri cylch risg hunanladdiad mewn cymunedau cefn gwlad ar draws Cymru."

Dywedodd Sian Jones, Swyddog Prosiect Ein Ffermio Ein Dyfodol, bod yr unigolion yma yn bwysig wrth hybu sgyrsiau am iechyd meddwl ymysg ffrindiau.

“Ma’ ganddon ni unigolion sy’ ‘di bod drwy profiadau anodd iawn a ma’ nhw’n gallu sgwrsio am sut ma’ nhw ‘di estyn allan am gymorth, sut wnaethon nhw ffonio, be’ o’dd yn digwydd adeg hynny," meddai wrth Newyddion S4C.

“A mae’n bwysig bod nhw’n dangos i’w ffrindiau a’u cynghreiriaid, ‘di o ddim mor ofnadwy a ma’ nhw’n meddwl gallu siarad efo rhywun, ac unwaith ‘ma nhw ’di dechrau siarad, dyna y cam anodda’n aml iawn ydy’r cam cynta’.

“Gyda chymorth ein harianwyr, gallwn gynnig hyfforddiant yn ddi-dâl i aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc a cholegau amaethyddol, felly cyn bo hir bydd gennym unigolion hyfforddedig mewn cymunedau ledled Cymru.”

'Helpu pobl'

Ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni, mae gan Samariaid Cymru 'olwyn wrando enfawr' gydag awgrymiadau am ffyrdd o wrando yn well wrth i ffrindiau a theulu drafod iechyd meddwl.

Ers iddi golli ei chariad dair blynedd yn ôl, mae siarad am iechyd meddwl a gwrando wedi bod yn bwnc sydd yn ganolog i sgyrsiau Elin a'i ffrindiau.

“Ma’ bod yn y lle yna a sylweddoli you can’t do it all by yourself sy’ ‘di actually helpu fi helpu pobl mwy hefyd achos dyna be’ ma pobl yn neud i ddechrau ‘de, head down, a ma’ hwnna un sign mawr o fel, it’s given me frontline experience fath o beth.

"Dwi'n hoffi gofyn y cwestiwn 'sut wyt ti?' dwywaith, achos mae hynny yn gallu arwain at mwy o sgyrsiau agored am iechyd meddwl.

"Mae o'n cael ei weavio mewn i sgyrsiau ac yn dod yn fwy naturiol."

Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.