
Teyrngedau i ddau a fu farw mewn damwain tram yn Lisbon
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau o Brydain a fu farw mewn damwain tram yn Lisbon ym Mhortiwgal.
Y cyfarwyddwr theatr Kayleigh Smith a'i phartner Will Nelson, darlithydd yn Ysgol Theatr Arden ym Manceinion, oedd dau o’r tri o’r DU a fu farw yn y ddamwain.
Nid yw'r trydydd dioddefwr o Brydain wedi'i enwi eto.
Roedd Kayleigh Smith a Will Nelson yn aelodau "hynod dalentog" o'r gymuned theatr a oedd yn ymroddedig i "ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf" meddai’r teyrngedau.
Oriau cyn y ddamwain, postiodd Ms Smith luniau ar Instagram o’u diwrnod cyntaf yn Lisbon gyda’r geiriau: “Eglwysi a chestyll, teils a thramiau.”
Bu farw 16 o bobl yn y digwyddiad, ac fe anafwyd 20 o bobl, gyda phum claf yn parhau mewn cyflwr difrifol.
Fe ddaeth y tram oddi ar y cledrau yng nghanol y ddinas, gan arwain at ddiwrnod cenedlaethol o alaru yn y wlad ddydd Iau.
Mae’r rheilffordd ffwniciwlar yn y ddinas yn 140 oed ac yn atyniad poblogaidd i dwristiaid, ac yn ffordd gyfleus o gysylltu gwahanol rannau o'r ddinas.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 18.05 ddydd Mercher, gyda llygaid-dystion yn awgrymu fod y system frecio wedi methu, a bod y tram wedi llithro i lawr stryd serth cyn taro adeilad.

Dywedodd Aelod Seneddol Macclesfield, Tim Roca, ei fod yn drist o glywed am farwolaethau Ms Smith a Mr Nelson yn y ddamwain.
"Roedd Kayleigh yn gyfarwyddwr theatr hynod dalentog yn Theatr MADS, lle tywalltodd ei chreadigrwydd, ei hegni a'i charedigrwydd i bob cynhyrchiad,” meddai.
“Roedd Will, darlithydd yn Ysgol Theatr Arden Manceinion, yr un mor ymroddedig wrth feithrin creadigrwydd ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
“Rwy’n gwybod y bydd ei golled yn cael ei theimlo’n ddwfn gan gydweithwyr a myfyrwyr fel ei gilydd.”
Postiodd Theatr MADS yn Macclesfield deyrnged nos Wener, gan ddweud: “Gyda thristwch mawr y mae’n rhaid i ni gydnabod marwolaeth Kayleigh Smith a’i phartner Will Nelson yn nhrychineb Lisbon.
“Roedd Kayleigh yn aelod gwerthfawr o’n cymdeithas a gwnaeth gyfraniadau sylweddol i MADS ac i ddrama yng ngogledd orllewin [Lloegr].
“Mae’n wir yn golled drist i bob un ohonom yn y theatr.”