Rygbi: Cymru'n anelu i orffen ymgyrch Cwpan y Byd 'ar nodyn positif'
Bydd Cymru yn anelu i orffen eu hymgyrch yng Nghwpan Rygbi'r Byd "ar nodyn positif" yn erbyn Ffiji ddydd Sadwrn.
Hon fydd gêm olaf Cymru yn y gystadleuaeth, wedi iddyn nhw golli yn erbyn yr Alban a Chanada yn eu grŵp.
Er na fydd Cymru yn cyrraedd y chwarteri, mae ganddyn nhw gyfle i orffen drwy ennill un gêm a hynny yn erbyn Ffiji.
Mae prif hyfforddwr Cymru, Sean Lynn wedi gwneud pedwar newid i'r tîm ar gyfer y gêm.
Ymysg y newidiadau mae'r cyd-gapteiniaid Alex Callender a Kate Williams yn cychwyn gyda'i gilydd am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth.
Bydd Cymru yn wynebu eu cyn brif hyfforddwr, Ioan Cunningham sydd bellach yn brif hyfforddwr ar Ffiji.
Maen nhw yn yr un sefyllfa a Chymru, allan o'r gystadleuaeth ar ôl colli i'r Alban a Chanada.
'Dewr'
Dywedodd Sean Lynn y bydd Ffiji yn wrthwynebwyr heriol.
“Rydyn ni’n gwybod mai dyma fydd ein gêm olaf yng Nghwpan y Byd ac rydyn ni’n parchu’r her y bydd Fiji yn ei rhoi i ni," meddai.
“Rydyn ni wedi dangos mewn mannau beth rydyn ni’n gallu ei wneud, ond rydyn ni’n ymwybodol iawn bod yn rhaid i ni berfformio'n gyson os ydyn ni am gael y fuddugoliaeth.
“Dwi wedi dweud wrth y chwaraewyr i fod yn ddewr, croesawu’r her ac i wneud yn siŵr ein bod ni’n gadael y gystadleuaeth hon gyda’n pennau’n uchel ac ar nodyn positif.
“Rydyn ni eisiau gwneud teulu rygbi Cymru yn falch ac i orffen ein hymgyrch yn Lloegr gyda pherfformiad y gallwn ni ei ddefnyddio fel platfform ar gyfer y Chwe Gwlad."