
Cricieth: Cais i ddiogelu tŷ ar ymyl clogwyn
Mae perchnogion tŷ ar ben clogwyn sy’n dadfeilio yng Nghricieth wedi gwneud cais am ganiatâd i’w achub.
Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno i Gyngor Gwynedd gan berchnogion Cefn Castell, ger Llanystumdwy sydd eisiau caniatâd i wneud gwaith i sefydlogi’r clogwyn.
Fe enillodd yr eiddo wobr genedlaethol RIBA ac fe ymddangosodd ar raglen Grand Designs yn 2014.
Mae angen y gwaith yn dilyn tirlithriad yn ogystal ag erydiad naturiol sydd bellach yn bygwth y tŷ, medden nhw.
Byddai’r gwaith arfaethedig yn cynnwys sefydlogi'r clogwyn gyda “angorau dur” i leihau'r risg o erydiad, a darparu amddiffyniad hirdymor i dir ac eiddo cyfagos.
“Digwyddodd tirlithriad sylweddol ym mis Chwefror 2024, wrth ymyl gatiau mynediad yr adeilad,” meddai’r cais cynllunio.
Roedd hynny o ganlyniad i ddraen oedd wedi bod yn draenio dŵr yn uniongyrchol ar wyneb y clogwyn dros gyfnod hir, medden nhw.
Mae rhan o’r wal o amgylch y tŷ bellach yn hongian dros y clogwyn.

Os nad yw’r clogwyn yn cael ei ddiogelu gallai achosi “risg posibl i’r eiddo, yr arfordir, a diogelwch y cyhoedd,” meddai’r cais. Mae Llwybr Arfordirol Cymru islaw y clogwyn.
Dywed y cynlluniau bod y tŷ wedi "cyfrannu'n sylweddol at yr economi leol". Mae wedi denu twristiaid i’r ardal ac fe gafodd ei osod i ymwelwyr am 196 diwrnod yn 2024.
Dyluniwyd yr eiddo gan y penseiri enwog o Fanceinion, Stephenson Studio, ar gyfer y perchnogion Rob a Kay Hodgson.