
Canu gwerin: Cerddor o Fôn yn hyderus am 'gau'r gap gyda'r Gwyddelod'
Canu gwerin: Cerddor o Fôn yn hyderus am 'gau'r gap gyda'r Gwyddelod'
Mae athro a cherddor o Ynys Môn yn dweud ei fod yn hyderus y gallai cerddorion gwerin Cymru “gau’r gap gyda’r Gwyddelod” yn y dyfodol, er gwaethaf ei bryderon am ddiffyg hyrwyddo’r traddodiad yn yr ystafell ddosbarth.
Yn wreiddiol o Gaergybi mae Paul Magee yn brif leisydd gyda'r grŵp gwerin Y Brodyr Magee, yn ogystal â bod yn athro cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Bodedern ar yr ynys.
Mae eisoes wedi dweud y dylai mwy gael ei wneud i hyrwyddo cerddoriaeth werin yn ysgolion Cymru - ag yntau’n pryderu na fydd y traddodiad yn cydio yn y genhedlaeth nesaf o gerddorion.
Ond wedi iddo dreulio cyfnod yn ystod gwyliau'r haf yn dysgu alawon Cymreig i ddisgyblion Gwyddelig yn Iwerddon, mae’n dweud ei fod yn hyderus y gallai hen draddodiadau Cymraeg barhau am genedlaethau i ddod.
Fel rhan o gynllun TG Lurgan, a gyda chwmni Iestyn Jones o'r band Cadog, roedd yn rhan o brosiect i ddysgu caneuon Cymraeg i dros 400 o blant a phobl ifanc Gwyddelig yn ysgol haf Coláiste Lurgan yn ardal y Gaeltacht yn Iwerddon.

Fe fydd sengl o'r enw 'Óró, hyd' yn cael ei rhyddhau yn y dyfodol agos fydd yn gymysgedd o gân adnabyddus Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’, a'r gân Wyddeleg draddodiadol, 'Óró, Sé Do Bheatha 'Bhaile.'
Gyda “mwy o bobol yn rhannu cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg,” mae Paul Magee yn gobeithio y bydd modd “yn ara’ bach dros amser… cau’r gap yna gyda’r Gwyddelod.”
Mae’n hyderus y gallai hynny arwain at fwy o bobl yn dathlu a pherfformio cerddoriaeth werin o Gymru yn fwy rheolaidd, yn debyg i’r hyn sy’n digwydd yn Iwerddon, meddai.

'Angen mwy o lefydd'
Wedi iddo ddychwelyd i’r ‘stafell ddosbarth fel athro am dymor newydd yr wythnos hon, mae’n dweud ei fod yn benderfynol o barhau i hyrwyddo’r gerddoriaeth – a hynny drwy “gael plant yn involved mewn ffordd wahanol.”
Ond mae’n dweud bod yna waith ehangach i’w wneud er mwyn sicrhau bod plant yn gallu dod at ei gilydd i berfformio hefyd.
“Ma’ angen lle i blant cael mynd ac ymgasglu. Dwi’n ymwybodol bod nifer yng Nghymru yn ‘neud hynny eisoes ond y llefydd sydd yn bwysig,” meddai.

Yn ôl Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, mae adolygiad diweddar a gomisiynwyd ganddynt wedi “tynnu sylw at yr angen i gerddoriaeth draddodiadol gael lle o fewn systemau addysg ffurfiol, gan gynnwys ysgolion ac addysg uwch.”
Fel rhan o gynllun gweithredu mae’r Cyngor yn dweud eu bod wedi “ymrwymo i fuddsoddi” mewn systemau sy’n rhoi mwy o gyfleoedd i gerddorion ifanc “ddarganfod a mwynhau” cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg.
Dywedodd Dafydd Rhys bod hynny’n cynnwys creu cysylltiadau â gwasanaethau cerddoriaeth “ble mae hynny’n gwneud synnwyr".
Roedd hefyd yn dweud eu bod wedi cymryd camau ymarferol yn ddiweddar wedi i Reolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodiadol cyntaf Tŷ Cerdd gael ei benodi. Y Cyngor Celfyddydau sy’n ariannu’r swydd ac mae hynny’n “gam pwysig o ran cryfhau'r gefnogaeth i'r sector,” medd Mr Rhys.
Yn ôl Llywodraeth Cymru cefnogi "treftadaeth fyw" y wlad - sydd yn cynnwys cerddoriaeth draddodiadol - yw un o flaenoriaethau eu strategaeth Blaenoriaethau Diwylliant.
Dywedodd llefarydd wrth Newyddion S4C: “Rydyn ni’n cefnogi ysgolion drwy’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, sy’n cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc 3 i 16 oed fwynhau gweithgareddau cerddorol, cael mynediad at offerynnau, a chael gwersi ar draws ystod eang o genres ac arddulliau cerddorol."
'Calonogol'
Fel hanner Cymro a hanner Gwyddel, dywedodd Paul ei fod wedi cael profiad “bythgofiadwy” ar ôl cael dysgu cerddoriaeth yn Iwerddon yn ddiweddar.
Roedd yn “ddiddorol” gweld y gwahaniaethau rhwng y ddau ddiwylliant, meddai, nid yn unig o ran cerddoriaeth ond o ran iaith hefyd.

“Dwi ‘di sôn amdan ella ma’ nhw lot bellach lawr y lôn gyda diwylliant cerddoriaeth a cerddoriaeth gwerin ond beth sydd ‘di cael ei adael ar ei ôl ydy’r iaith.
“A dio’m yn ‘neud sens i fi wedyn i rywun fel fi sy’n dod o Gymru; pan ti edrych ar ochr ni, mae pethau traddodiadol i gyd ‘di neud trwy’r Gymraeg.
“Ond yn Iwerddon mae’r gerddoriaeth draddodiadol, a wedyn os ti’n edrych ar chwaraeon fatha gaelic football, a hurling, a camogie, maen nhw ‘di colli’r iaith.
“Ond fel dwi’n dweud mae’r cerddoriaeth yn ffantastig… mae mor neis gweld pobl ifanc a hefyd y niferoedd o bobl sy’n perfformio cerddoriaeth traddodiadol a chwarae offerynnau traddodiadol hefyd.
“A wedyn sut ‘da ni medru ‘neud hwnna yng Nghymru wedyn? Mae ‘di bod yn galonogol dweud y gwir.”