
'Eithriadol o bwysig' i blant ddysgu am gerddoriaeth werin
'Eithriadol o bwysig' i blant ddysgu am gerddoriaeth werin
Mae cerddor ac athro o Ynys Môn a gystadlodd ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi dweud y dylai fod mwy cael ei wneud i hyrwyddo cerddoriaeth draddodiadol mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae Paul Magee o Gaergybi, sy'n athro cerdd yn Ysgol Uwchradd Bodedern ar yr ynys, yn ogystal â bod yn brif ganwr y grŵp gwerin Y Brodyr Magee, yn dweud ei bod yn hollbwysig i blant gael dysgu am gerddoriaeth werin er mwyn sicrhau dyfodol y traddodiad.
Wedi iddo ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin nos Fawrth, mae’n angerddol dros sicrhau hynny.
Ond wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd fod perygl na fyddai cerddoriaeth werin yn parhau i ddatblygu os nad yw’n cydio’r genhedlaeth nesaf o gerddorion.
“Beth sy’n rili pwysig ydy cael mwy o blant yn chwarae offerynnau a wedyn yn cael y sesiynau ‘ma mewn tafarndai, eglwysi – lle bynnag – Neuadd Pentre’, Tŷ Gwerin, ac i plant gael dod draw i ymarfer a ‘gwneud camgymeriadau,” meddai.
“Y wledd o gerddoriaeth sydd gyda ni yma yng Nghymru, i fedru pasio'r traddodiad ‘mlaen, addasu fo, a rhoi stamp eu hunain arno fo.
“Mae’n eithriadol o bwysig.”
Y chwiorydd Elin a Carys o Faldwyn ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin 2025 gan ennill £600 o wobr, ac fe ddaeth Danny Sioned o Bontarddulais yn ail.

'Peth i fynd'
Fel hanner Cymro a hanner Gwyddel, mae’n dweud bod yna “beth ffordd i fynd” cyn i gerddoriaeth werin gael ei ddathlu yn yr un modd yng Nghymru o gymharu ag Iwerddon.
“Da ni ddim lle ‘da ni isio bod os ‘da ni’n cymharu efo Iwerddon ond ‘da ni ar y trywydd cywir,” meddai.
“Dwi’n hanner Gwyddel, dwi efo pasbort Gwyddelig a dwi’n cael gweld sut mae’r sin yn rili ffrwydro a dweud y gwir.
“Mae pob tŷ tafarn yn Iwerddon, mae’r plant bach, bach, bach – nid yn yfed, maen nhw’n dod, ond mynd er mwyn chwarae cerddoriaeth – a dysgu’r hen alawon a jigs, reels, a maen nhw jyst yn rili mynd amdani.
“Dio ddim yn digwydd cymaint yng Nghymru ar hyn o bryd ond mae ‘na lot o bandiau rili cyffrous ar hyn o bryd ar y sin sydd yn perfformio ac yn perfformio cerddoriaeth Cymraeg ar draws y byd.”

'Rili, rili pwysig'
Mae’n dweud ei fod yn pryderu am doriadau yn y diwydiant all beryglu dyfodol cerddoriaeth werin.
Er gwaethaf hynny mae “lot o bobl efo angerdd dros gerddoriaeth werin ac isio rhannu hynny” gan bwysleisio fod ‘na adnoddau “ffantastig” ar gael yn rhad ac am ddim, meddai.
“Ma'na wefan rili ffantastig, Clera, dwi’n defnyddio hwnna o hyd oherwydd dwi’n chwarae’r ffidil – mae’n briliant ond ydy pobol yn ymwybodol ohono fo?
“Hyd yn oed dawnsio gwerin. O’n i’n gorfod ‘neud dawnsio gwerin yn ysgol gynradd ond os ‘na ffordd o gael hwnna mewn ffordd sy'n fwy o hwyl?
Mewn ymateb i bryderon y cerddor dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod wedi “amlygu pwysigrwydd cefnogi ac hyrwyddo cerddoriaeth werin i bobl ifanc yn yr adroddiad dwys i ni ei gomisiynu'n ddiweddar.”
“Fel rhan o bwyntiau gweithredu'r adroddiad hwnnw, rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r arian sydd wedi ei neilltuo ar lawr gwlad dan arweiniad cerddorion i gymryd rhan ac i ddatblygu ein traddodiadau gwerin,” medd Dafydd Rhys.
“Byddwn hefyd am weld datblygiad yn y cysylltiadau strategol agosach gyda’r sector addysg,” ychwanegodd.