Diogelu dyfodol archifdy Prifysgol Bangor yn dilyn ymgynghoriad

Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi eu bod am ddiogelu dyfodol eu harchifdy yn dilyn ymgynghoriad.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i dros 3,000 o bobl arwyddo deiseb i apelio yn erbyn cynlluniau a luniwyd gan uwch reolwyr y brifysgol.

Roedd y prifysgol wedi cyhoeddi ym mis Mai fod eu hadran Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn rhan o ymgynghoriad ar dorri costau yn y sefydliad.

Dywedodd yr Athro Edmund Burke wrth staff ar y pryd bod y brifysgol yn chwilio am "tua £5.3 miliwn" sy'n "cynrychioli 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn".

Mae dau aelod o staff llawn amser a dau aelod o staff rhan-amser yn gweithio yn yr archifdy, ac roedd awgrym y gallai tri ohonyn nhw golli eu swyddi.

Ond dywedodd uwch archifydd y brifysgol, Elen Simpson, ddydd Mercher bod y cynllun hwnnw bellach wedi cael ei adolygu yn dilyn cyfnod o ymgynghori.

"Mae'r Bwrdd Gweithredol bellach wedi adolygu'r holl ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac wedi gwneud nifer o benderfyniadau a fydd yn sicrhau bod yr arbedion o £15m yr oedd yn ofynnol i'r Brifysgol eu gwneud yn cael eu cyflawni," meddai Elen Simpson.

"Gwnaed y newidiadau hyn i sicrhau cynaliadwyedd ariannol cynaliadwy'r Brifysgol, gan geisio lliniaru'r effaith ar ein staff, myfyrwyr a chymunedau."

Ychwanegodd: "Mae'r tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig wedi'i gadw, gyda gostyngiad bach yn yr oriau staffio wedi'i gytuno.

"Bydd hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn wydn ac yn gynaliadwy, a bod y casgliadau yn ein gofal yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar gael i'n holl randdeiliaid."

'Edrych tua'r dyfodol'

O ganlyniad i'r newidiadau, bydd oriau agor yr ystafell ddarllen yn cael eu lleihau o 30 awr i 21 awr yr wythnos. 

Yn ôl y brifysgol bydd hyn yn "rhoi amser amhrisiadwy" i'r staff weithio'n agosach gyda'r casgliadau y tu allan i'r oriau hyn.

Mae hyn yn cynnwys gwaith catalogio, gwaith cadwraeth a darparu mynediad ar-lein i rai llawysgrifau, meddai'r brifysgol.

O 1 Medi 2025 ymlaen, bydd yr ystafell ddarllen ar agor i bawb, trwy apwyntiad, bob dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener o 09.30-16.30. 

Ni fydd yr ystafell ddarllen ar agor ar ddydd Llun a dydd Mawrth, ond bydd yr Ystafell Addysg ar gael drwy'r wythnos ar gyfer sesiynau addysgu myfyrwyr.

Mae'r brifysgol hefyd wedi cyhoeddi y bydd angen i'r archifdy adolygu ei ffioedd a chyflwyno rhai newydd.

"Er enghraifft, byddwn yn codi £20 fesul hanner awr am unrhyw waith ymchwil a wneir gan y staff ar ran defnyddwyr allanol a bydd cost trwydded ffotograffig ddyddiol ac wythnosol i ddefnyddwyr allanol yn cynyddu i £7.50 a £10, yn y drefn honno," meddai Ms Simpson.

Fe aeth ymlaen i ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.