Bryn Jones yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn y Brifwyl yn Wrecsam
Bryn Jones yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn y Brifwyl yn Wrecsam
Bryn Jones sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn y Brifwyl yn Wrecsam ddydd Mercher.
Y dasg oedd creu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Ffin neu Ffiniau, a'r beirniaid eleni oedd Aled Lewis Evans, Bethan Mair ac Elin Llwyd Morgan.
Fe wnaeth 16 ymgeisio am y Fedal eleni, gyda'r safon yn uchel meddai'r beirniaid, ond Trilliw Bach oedd yn fuddugol.
Cafodd Bryn Jones ei fagu yn Llanberis. Bellach mae wedi ymgartrefu ym Mangor, ac yn byw dafliad carreg o gyn-leoliad Ysbyty Dewi Sant ble y cafodd ei eni.
Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Dolbadarn, Llanberis; yno fe daniwyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yng nghwmni nifer o athrawon brwdfrydig.
Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ble y daeth dan ddylanwad ei athro Cymraeg, y diweddar Alwyn Pleming, a gyflwynodd iddo sylfeini’r iaith Gymraeg yn ogystal â chyfoeth ei llenyddiaeth.
Llên micro 'eang ei chynfas'
Dywedodd Aled Lewis Evans yn ei feirniadaeth: “Cyfrol o lên micro eang ei chynfas, a chelfydd ei chynildeb. Mae yna galon a rhwystredigaeth a gwir ddawn yn y gyfrol hon. Mae’r awdur ynghanol sefyllfaoedd bob dydd, ac â meddwl eangfrydig.
"Mae yna bedair is-adran i’r gwaith, ac mae’r iaith lafar yn amlwg ac yn addas i’r cyd-destun. Mae’n amlwg bod yr awdur yn deall cynildeb y cyfrwng, sydd hefyd yn siarad cyfrolau. Mae’n llenor medrus sy’n ddifyr a byrlymus a llawn afiaith. Mae gallu yma i fynd o dan groen rhychwant o sefyllfaoedd cyfoes, yn ogystal â darnau sy’n peri i ni gwestiynu."
Ychwanegodd: “Mae darnau ohonom i gyd yn y gyfrol hon – gyda chynildeb darnau fel ‘Ffotosynthesis’. Mae enwau lleoedd a hunaniaeth Gymreig yn amlwg fel thema, ac yn nifer o’r darnau ceir llinellau clo bachog sy’n hoelio’r darnau. Dyrchefir bywyd bob dydd ein cymdeithas gyfoes yn y gyfrol, ac emosiynau a gweledigaeth pobl gyffredin.
"Credaf y bydd yn apelio at drwch o ddarllenwyr. Mae eironi sefyllfaoedd cyfoes wedi ei gyflwyno’n blaen. Mae’n awdur hyblyg iawn – un munud yn rhoi golwg real iawn ar gapeli yn ‘Tŷ fy nhad’, ond wastad efo ymwybyddiaeth o ddwy ochr i bopeth.
“Rydym ninnau fel beirniaid wedi cael taith fuddiol a chofiadwy gan lenor o fri mewn cyfrol ddychanol a dig ar adegau, ond cyfrol hollol gelfydd a gwreiddiol yr un pryd.
Gyrfa ym myd addysg
Yn 1982 graddiodd Bryn Jones yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, a chafodd fudd o fynychu darlithoedd ysgrifennu creadigol dan arweiniad y diweddar Athro Gwyn Thomas.
Mae Bryn wedi treulio’i yrfa ym myd addysg; cychwynnodd fel athro yn Ysgol Gynradd Llanfawr, Caergybi yn 1983, a threuliodd gyfnod hapus yn byw yn y dref, cyn ei benodi yn Ddirprwy Brifathro Ysgol y Gelli, Caernarfon yn 1989.
Yn 1995 cychwynnodd ei swydd fel Darlithydd Addysg yn y Coleg Normal (yn ddiweddarach, Ysgol Addysg Prifysgol Bangor).
Bydd y gyfrol lwyddiannus yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod ac mae'r llenor llwyddiannus yn cael ymuno â'r Orsedd.
Eurgain Haf ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.
Cyflwynwyd y Fedal er cof am ei Anrhydedd Dafydd Hughes, dreuliodd flynyddoedd dedwydd iawn yn Wrecsam, gyda ei deulu, Ann Tegwen, Catrin, Mari, Gerallt ac Ann Lloyd, a’r wobr ariannol o £750, gan Brifysgol Bangor.