Lot yn digwydd 'y tu ôl i'r llenni' ar y Gymraeg meddai Mark Drakeford
Mae Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â chynlluniau i warchod cymunedau Cymraeg ond “ambell waith mae’r gwaith yn digwydd y tu ôl i’r llenni.”
Felly mae Gweinidog y Gymraeg, Mark Drakeford wedi ymateb i fudiadau iaith sy’n dweud ei bod yn “warth” nad ydy’r Llywodraeth wedi gweithredu ar rai o argymhellion Comisiwn y Cymunedau Cymraeg.
Mae 'na flwyddyn ers i’r corff hwnnw gyflwyno’i adroddiad i Lywodraeth Cymru. Ymhlith yr argymhellion oedd rhoi statws penodol i’r ardaloedd hynny lle mae’r iaith yn gryf, a’u dynodi’n ardaloedd “dwysedd uwch”.
Bellach mae tri mudiad iaith, sef Cylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Dyfodol i’r Iaith wedi cyhoeddi datganiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu’n gadarn ac ar frys i warchod y cymunedau Cymraeg".
“Mae adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg, a gomisiynwyd gan y llywodraeth ei hun, yn egluro'r sefyllfa argyfyngus bresennol a'r ffactorau sy'n effeithio'n negyddol ar yr iaith, ac mae argymhellion y Comisiwn yn cynnig ffordd ymlaen i ddiogelu ac atgyfnerthu'r cymunedau hyn,” meddai’r datganiad ar ran y tri mudiad.
“Mae'r llusgo traed ar fater mor bwysig ac mor allweddol yn dangos diffyg difrifoldeb ar ran y llywodraeth.
"Pe bai'n llawn sylweddoli pwysigrwydd y cymunedau Cymraeg ac yn deall bod yr iaith yn yr argyfwng mwyaf yn ei hanes, fel y dengys ffigurau Cyfrifiad 2021, byddai'n mynd ati'n ddiymdroi i weithredu'r cam cyntaf allweddol, sef dynodi Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol (Dwysedd Uwch) neu gyfarwyddo'r awdurdodau lleol i wneud hynny, gan ddarparu'r grymoedd angenrheidiol i weithredu'n lleol.
“Rydym o'r farn ei fod yn warth nad yw Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen i lunio trefniant pwrpasol gyda brwdfrydedd a brys i weithredu'r cam allweddol cyntaf o roi statws a hawliau cymunedol i'r Gymraeg a sicrhau bod y cynghorau sir yn cael y grymoedd priodol i'w gwarchod a'u cryfhau. Heb weithredu'n gadarn, bydd y dirywiad yn parhau.”
Ond gwrthod y casgliadau hynny wnaeth Mr Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru a chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
“Dwi jyst ddim yn cytuno,” meddai wrth ymateb ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam. “Dan ni wedi cyhoeddi ymateb yn ystod Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai, ac ar draws y Llywodraeth i gyd mae lot o bethau’n digwydd yn barod.
"Ambell waith mae’r gwaith yn digwydd y tu ol i’r llenni.”
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor y syniad o ddynodi statws arbennig i gymunedau Cymraeg ond mae’n rhaid penderfynu pa ardaloedd fydd y tu mewn neu’r tu allan i’r cynllun hwnnw.
Dydy Mr Drakeford ddim o’r farn mai y fo fel gweinidog ddylai wneud y penderfyniadau hynny, ond bod angen trafod ar lefel mor lleol a phosib.