Cynnydd ‘syfrdanol’ mewn casineb arlein at wirfoddolwyr yng Nghymru
Mae Prif Weithredwr corff sy’n cynrychioli gwirfoddolwyr yng Nghymru wedi rhybuddio am don “syfrdanol” o “gasineb” y mae elusennau yn ei wynebu arlein.
Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru eu bod nhw’n wynebu “aflonyddwch cymdeithasol” ar hyn o bryd.
“Rydyn ni’n poeni yn arw am gydlyniad cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Rydyn ni’n gweld ein cymunedau yn dod yn ddarnau.
“A'r hyn sydd wedi bod yn eithaf syfrdanol yw bod gennym ni rai elusennau sydd wedi arfer â derbyn casineb a chael sefydliadau ffoaduriaid wedi'u targedu, er enghraifft.
“Ond nawr rydym yn gweld elusennau na fyddai byth yn disgwyl derbyn casineb, dan warchae yn y cymunedau maen nhw'n ceisio'u cefnogi.
“Nhw yw'r glud sy'n dal cymunedau Cymru at ei gilydd, ac mae angen i ni amddiffyn y glud hwnnw i wneud yn siŵr y gall ein cymdeithasau yn dod ynghyd.”
‘Anodd iawn’
Un esiampl eithafol o hynny meddai oedd bod gwirfoddolwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi derbyn ymosodiadau ar-lein ar ôl i fideo ganddyn nhw gael ei rhannu arlein gan berchennog gwefan X, Elon Musk.
Dywedodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru ar y pryd fod staff a gwirfoddolwyr wedi derbyn bygythiadau i’w bywydau.
Roedd y fideo wedi ei chreu fel prosiect ysgol ac yn dangos grŵp o ferched yn egluro pam fod Cymru yn wlad groesawgar i ffoaduriaid.
“Roedd yr adlach wnaethon nhw dderbyn yn ddigon i olygu nad oedden nhw’n gallu gweithredu eto am sawl wythnos,” meddai Lindsay Cordery-Bruce.
“Felly rydyn ni'n gweld pethau fel 'na sy'n eithaf syndod.
“Ond hefyd rydyn ni'n gweld pobl yn targedu elusennau amgylcheddol nad ydyn nhw'n ymddangos yn delio ag unrhyw beth arbennig o ddadleuol, ond sydd hefyd yn derbyn y math yna o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Ac mae llawer ohonyn nhw mor fach fel nad oes ganddyn nhw hyd yn oed dimau cyfathrebu. Pobl ydyn nhw yn gwneud y peth iawn oherwydd mai dyna'r peth iawn i'w wneud, ac yna ceisio delio ag ymosodiadau ar y cyfryngau cymdeithasol - mae'n anodd iawn.
“Mae cymdeithas yn eithaf rhaniedig ar hyn o bryd. Mae yna lawer o safbwyntiau cryf yn cael eu mynegi.
“Ar y cyfan, serch hynny, yw bod ymddiriedaeth mewn elusennau yn uchel iawn. Felly rwy'n gobeithio y gallai hynny fod yn neges gadarnhaol, mewn gwirionedd, ar gyfer sut rydyn ni'n gwthio nôl yn erbyn y naratifau hyn."
Ychwanegodd: “Mae'r cyhoedd yn dal i ymddiried mewn elusennau a'r hyn rydyn ni'n ei gynnig, sut rydyn ni'n helpu pobl.
“Ond mae 'na lawer o bobl sydd eisiau herio'r status quo mewn nifer o wahanol ffyrdd, ac weithiau mae hynny'n ddefnyddiol ac weithiau mae’n creu problemau.
“Pan ydych chi’n delio gyda robotiaid arlein, mae’n gêm hollol wahanol a set sgiliau hollol wahanol. Does gan elusennau ddim yr offer i baratoi ar gyfer hynny.”
‘Ymarferol’
Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce bod Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru bellach yn ceisio cynnig cefnogaeth i elusennau i ymdopi ag ymosodiadau arlein.
“Rydyn ni wedi cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer elusennau ar gyfer sut i ymateb, pwy i ymgysylltu â nhw, beth i beidio a gwneud,” meddai.
“Ac mae yna awgrymiadau defnyddiol, er enghraifft, os ydych chi'n dod oddi ar blatfform fel, X, peidiwch â dileu eich enw, oherwydd gallai rhywun arall ei ddefnyddio wedyn a cheisio esgus bod yn chi.
“Felly awgrymiadau a chyngor ymarferol ar gyfer pethau y gall pobl eu gwneud tra ei fod yn teimlo fel eich bod chi'n wynebu her amhosibl.”
Dywedodd eu bod nhw fel corff bellach yn “gwneud llawer llai” ar X am ei fod “yn frand nad ydw i eisiau i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fod yn gysylltiedig ag ef”.
“Mewn gwirionedd, mae yna ffyrdd eraill o gyfathrebu â'r bobl rydyn ni eisiau eu cyrraedd,” meddai.