Canfod dylunydd ffasiwn o Iwerddon yn farw ar gwch yn Efrog Newydd

Martha Nolan-O’Slatarra

Mae dylunydd ffasiwn o Iwerddon wedi cael ei darganfod yn farw ar gwch mewn clwb hwylio ar Long Island yn Efrog Newydd.

Cafodd Martha Nolan-O’Slatarra, 33 oed, oedd yn byw ym Manhattan, ei darganfod yn anymwybodol ar y cwch yng Nghlwb Hwylio Montauk yn oriau mân fore Mawrth.

Cafodd ei ei marwolaeth ei gyhoeddi gan y gwasanaethau brys lleol.

Mae archwiliad post-mortem yn mynd i gael ei gynnal ar ei chorff gan Swyddfa Archwiliwr Meddygol Sir Suffolk.

Mae Adran Materion Tramor Iwerddon wedi dweud ei bod yn ymwybodol o’r achos ac yn darparu cymorth.

Ms Nolan-O’Slattara, yn wreiddiol o Carlow, oedd sylfaenydd y brand ffasiwn East x East.

Dywedodd datganiad gan Adran Heddlu Sir Suffolk fod ditectifs yn ymchwilio.

Dywedodd llefarydd: “Ymatebodd Heddlu Tref East Hampton i alwad 911 gan ddyn yn adrodd am fenyw yn anymwybodol ar gwch a oedd wedi’i docio yng Nghlwb Hwylio Montauk, ar Ffordd Star Island Road, tua 12am.

“Ceisiodd Samariaid da berfformio CPR ar y fenyw.

“Cyhoeddwyd Martha Nolan-O’Slatarra, 33, o Manhattan, yn farw ar y cwch gan swyddogion cymorth cyntaf.

“Nid oedd yr ymchwiliad rhagarweiniol a’r archwiliad yn bendant ynghylch achos y farwolaeth, a fydd yn cael ei bennu gan awtopsi a gynhelir gan Swyddfa Archwiliwr Meddygol Sir Suffolk.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.