Lucy Cowley yn cipio gwobr Dysgwr y Flwyddyn
Lucy Cowley sydd wedi cipio gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
O Is-y-Coed, Wrecsam, sef cartref yr Eisteddfod eleni mae Lucy bellach yn byw yn Llangollen.
Wrth weithio fel athrawes, fe wnaeth Lucy sylweddoli ei bod wrth ei bodd yn rhannu’r Gymraeg gyda’r plant.
Aeth ati i ddilyn cyrsiau, a bellach mae hi wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn Llangollen, sy’n denu dysgwyr o gefndiroedd amrywiol.
Y tri arall a ddaeth i’r brig oedd Rachel Bedwin sy’n byw yn ardal Bangor, Hammad Hassan Rind sy’n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy’n byw ym Mhrestatyn.
Cyhoeddwyd y canlyniad ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 6 Awst, a derbyniodd Lucy Dlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Spencer a Jeni Harris, a £300, yn rhoddedig gan Ann Aubrey. Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.