'Ffordd i fynd': Cynnal sgwrs am iechyd meddwl dynion yn y Brifwyl

'Ffordd i fynd': Cynnal sgwrs am iechyd meddwl dynion yn y Brifwyl

Bydd sgwrs am iechyd meddwl dynion yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.

Meddwl.org sy'n gyfrifol am drefnu'r drafodaeth a fydd yn rhoi cyfle i gyfranwyr sôn am sut yr aethon nhw ati i ddod o hyd i gymorth a gwella.

Yn ôl yr elusen, mae trafodaethau agored trwy gyfrwng y Gymraeg am iechyd meddwl wedi dod yn llawer mwy cyffredin dros y ddegawd ddiwethaf.

Ond maen nhw'n dweud bod trafodaethau penodol am iechyd meddwl dynion yn llai cyffredin, gyda stigma am drafod gwahanol gyflyrau yn parhau.

Yn ei ugeiniau, fe wnaeth un o'r cyfranwyr, Cai Tomos, 46 o Gaersws, dreulio cyfnod mewn ysbyty meddwl o achos iselder a dibyniaeth ar alcohol.

Erbyn hyn mae'r seicatherapydd ac artist dawns yn helpu dynion eraill i fynegi eu hunain boed hynny drwy sesiynau therapi, neu weithdai creadigol.

"Pan o'n i'n ysbyty fy hun, dw i'n meddwl be' nath safio fi oedd fy mherthynas i â celfyddyd, fy mherthynas i â paentio a symud dyna lle o'n i'n mynd ac, i fi, mae celfyddyd yn gallu bod yn rhyw fath o gwmpawd sy'n helpu ti ffeindio dy ffordd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae meddyginiaeth yn bwysig, mae diagnosis yn bwysig ac un rhan o'r stori ydi hwnna.

"Rhan arall ydi, sut ydw i mewn perthynas â'r salwch yma sydd gen i a sut ydw i'n ffeindio ystyr a byw efo fo?"

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae tri o bob pedwar o bobl (75%) sy'n cymryd eu bywydau eu hunain yn ddynion.

Dyma'r achos marwolaeth fwyaf cyffredin i ddynion o dan 50 oed yng Nghymru a Lloegr.

'Ffordd i fynd'

Er bod ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl wedi gwella, mae Mr Tomos yn dweud bod "dal dipyn o ffordd i fynd" yn enwedig ymhlith dynion.

"Mae pethau wedi newid a dw i'n gweld hynna yn fy ngwaith," meddai.

"Mae dal dipyn o ffordd i fynd, ond i ddynion yn specific mae'n ymwneud â gofodau sy'n galluogi mynegiant a hefyd i ffeindio'r iaith i fynegi teimladau ag yn aml mae hwnna'n rhyw fath o addysg sydd angen digwydd o fywyd cynnar."

Ychwanegodd: "I fi, rhan mawr o iachau ydi teimlo bo' ni'n cael ein gweld, bo' ni'n cael ein dalld."

Dywedodd Hywel Llŷr Jenkins o dîm Meddwl.org bod "dal angen annog eraill" i gael cymorth.

"Mae gen i barch mawr at ddynion sy'n codi eu llais a chwilio am gymorth pan maent yn profi cyfnodau anodd gyda salwch meddwl," meddai.

"Mae dal angen annog eraill i gael y cymorth maent ei angen, ac yn haeddu derbyn – mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i gael trafodaeth am sut i wneud hynny."

Bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal am 15.30 ar ddydd Mercher 6 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.