AI yn trechu prifardd wrth argyhoeddi’r cyhoedd

Ai vs Prifardd

Mae deallusrwydd artiffisial (AI) wedi trechu prifardd wrth argyhoeddi’r cyhoedd ei fod yn fardd go iawn ar faes yr Eisteddfod.

Cynhaliodd criw Hansh Dim Sbin yr arbrawf gan gyflwyno Eisteddfodwyr i ddarn o farddoniaeth wedi ei greu gan y Prifardd Carwyn Eckley ar un llaw a darn arall wedi ei greu gan AI ar y llall.

Yn y pen draw fe bleidleisiodd tri aelod o’r cyhoedd fod yr AI yn fardd go iawn, a dim ond dau wnaeth ochri gyda’r Prifardd a enillodd Cadair yr Eisteddfod y llynedd ym Mhontypridd.

Er mai tafod yn y boch oedd yr arbrawf dywedodd Carwyn Eckley bod angen i feirniaid y Brifwyl a’r Eisteddfod “feddwl o ddifrif” am sut oedd atal defnydd AI dros y blynyddoedd nesaf.

“Dwi wedi siarad gyda dipyn o feirdd eleni sy’n poeni am feirdd eraill o bosib, a defnydd o ddeallusrwydd artiffisial,” meddai Carwyn Eckley.

“A sut 'sa hynny’n gallu effeithio ar waith pobl, a bod pobl yn cael mantais annheg o bosib wrth ddefnyddio fo.

“A dwi’n meddwl bod y Steddfod wedi dod â rheol mewn eleni sy’n dweud ‘na, chewch chi ddim defnyddio technoleg mewn unrhyw ffordd i helpu chi sgwennu rhywbeth’.

“Felly mae hwnna yn ddatblygiad diddorol.

“Ond y mwyaf mae AI yn datblygu, yr anoddaf fydd o i weld beth sy’n ffug a beth sy’n go iawn os liciwch chi.”

‘Ofnus’

Am y tro cyntaf eleni mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ychwanegu ’rheol newydd i’w rhestr testunau. 

Mae'r rheol yn datgan nad oes modd i unrhyw un ddefnyddio’r dechnoleg i “greu neu gynorthwyo” cyfansoddiadau yn yr adran lenyddiaeth. 

Dywedodd Carwyn Eckley ei fod yn clywed dadleuon y gall AI hybu creadigrwydd hefyd, ond nad oedd eto wedi ei argyhoeddi.

“Mae lot o bobl sydd o blaid y dechnoleg yma wrth gwrs yn dweud ei fod yna i’n cynorthwyo a’n helpu ni,” meddai.

“Ond dwi’n teimlo braidd yn anghyfforddus ynglŷn â phobl greadigol yn ei ddefnyddio fo i’w helpu nhw mewn unrhyw ffordd.

“Achos dwi’n teimlo y dylai hynny ddod o'r unigolyn sy’n sgwennu a ddim o’r tu allan mewn ffordd.

“Dwi di siarad efo un neu ddau sy’n gyffrous am efallai'r syniadau all AI roi.

“Hynny ydi, os ti’n cael trafferth meddwl am syniad falle neu destun i sgwennu amdano fo, siŵr all AI fod o gymorth i chi.

“Dwi heb ddefnyddio fo eto. Ac mae ambell un yn ofnus bod defnyddio fo yn twyllo.

“Un peth sy’n sicr ydi bod o ddim yn mynd i ffwrdd ac mae’n rhaid i feirdd a’r Steddfod feddwl o ddifri sut maen nhw’n mynd i ymdopi ag ymdrin â’r peth dros y blynyddoedd nesaf.” 

Cynganeddu

Daw sylwadau Carwyn Eckley wedi i rai o brifeirdd eraill Cymru wedi dweud bod yna bosibilrwydd y bydd angen cymryd camau pellach i ddiogelu cystadlaethau llenyddol yn yr Eisteddfod pe bai AI yn parhau i ddatblygu.

Dywedodd Rhys Iorwerth wrth Newyddion S4C ddydd Llun nad ydy'r systemau "cweit digon da eiliad yma" ond os bydd pethau yn datblygu yn y dyfodol y bydd yn "rhaid i'r Eisteddfod ymateb rhywsut".

Yn ôl Aneirin Karadog mae'r Eisteddfod wedi bod yn flaengar trwy ddod a'r rheol yn ei le.

“Dwi'n meddwl bod y ‘Steddfod yn arwain y ffordd gyda’r cymal yma dweud y gwir achos dwi ddim ‘di gweld cystadlaethau eraill yn gwneud. Gwirio bod y twyll yma ddim yn digwydd ydy’r cam nesa’.”

Ychwanegodd nad yw AI yn gallu cynganeddu ar hyn o bryd.

"Felly falle y gallai AI gystadlu am y Goron ond ddim am y Gadair eto - mae’r Eisteddfod yn saff yn hynny o beth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.