Munud o dawelwch ar Faes yr Eisteddfod i gofio 80 mlynedd ers Hiroshima

Llun: Reuters
Hiroshima

80 mlynedd ers i fom niwclear dinistriol gael ei ollwng ar Hiroshima yn Siapan fe fydd munud o dawelwch ar Faes y Brifwyl i gofio'r hyn ddigwyddodd.

Cafodd 200,000 o bobl eu lladd yn sgil y bom- rhai yn syth ond eraill o losgiadau a salwch ymbelydredd.

Ddyddiau yn ddiweddarach gollyngwyd bom arall yn Nagasaki.

Yn sgil y bomiau a gafodd eu gollwng gan America fe ddaeth yr ail ryfel byd i ben. Roedd hefyd yn drobwynt mewn hanes arfau rhyfel.

Am 12:00 ddydd Mercher bydd munud o dawelwch yn y Pafiliwn ac wrth Gerrig yr Orsedd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wedi hynny bydd y cerddor Cian Ciarán yn cyflwyno gosodiad sain chwe awr o hyd i bobl brofi o fewn safle Cerrig yr Orsedd. Y bwriad yw bod pobl yn cael cyfle i fyfyrio a meddwl am y miloedd a fuodd farw yn Siapan ac i gofio eraill sydd wedi ac yn dal i gael eu heffeithio gan ryfeloedd.

Mae 'Hibakusha' yn un o'r prosiectau celf sydd yn cael eu cyflwyno yn ystod Blwyddyn Cymru a Siapan- dathliad blwyddyn gyfan o'r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl.

'Bwysicach nag erioed'

Mae'r gerddoriaeth wedi ei ysbrydoli gan ymweliadau Cian a Siapan a'u sgyrsiau gyda goroeswyr Fukushima a'u teuluoedd. 

Mae hefyd yn ymwneud ag atgofion y cerddor o Super Furry Animals o fod yn blentyn yn tyfu fyny yng nghysgod y Rhyfel Oer gyda gorsafoedd pŵer niwclear o'i gwmpas yng Ngogledd Cymru.

"Rwy'n credu, o ystyried yr hinsawdd wleidyddol jeopolitig bresennol, ei bod hi'n bwysicach nag erioed i ni fyfyrio, ac mae'r darn hwn yn amserol i'n hatgoffa o'r effeithiau trychinebus y gall rhyfel a gwrthdaro eu cael ar fywydau pobl," meddai Cian.

"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn symbolaidd, ac mae bob amser wedi cynnig gofod ar gyfer myfyrio ac adeiladu heddwch. Gwnes i'r penderfyniad ymwybodol i beidio â pherfformio oherwydd roeddwn i eisiau i bobl ganolbwyntio ar y pwnc, nhw eu hunain a'u profiad yn y gosodiad."

Mae'r gosodiad yn adlewyrchu taith awyren yr Enola Gay o'i esgyniad hyd nes rhyddhau'r bom 'Little Boy' dros y ddinas Siapaneaidd. 

Bydd 12 uchelseinydd wedi eu gosod wrth Gerrig yr Orsedd ar gyfer y gosodiad gyda'r bwriad o greu profiad sain 360 gradd.

Yn ystod y diwrnod bydd digwyddiad ar y Maes er mwyn nodi pwysigrwydd cofio i adeiladu heddwch. Bydd Cian ac Is-Gadeirydd Academi Heddwch Cymru a'r gwleidydd Jill Evans yno. Yn ogystal bydd Catharine Huws Nagashima, mudwr Cymreig i Siapan.

Meddai Jill Evans: "Mae blwyddyn Cymru a Siapan yn rhoi cyfle i'n dwy genedl ddysgu gan ein gilydd wrth rannu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.

"Bydd Hibakusha yn cynnig cyfle i ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol gofio effaith erchyll defnyddio arfau niwclear ochr yn ochr â'r gymuned fyd-eang, gan gryfhau penderfyniad cyffredin i weithio tuag at ddyfodol heddychlon a ffyniannus i bawb."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.