Cyhoeddi enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2025
Enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2025 yw Ynys am eu halbwm, ‘Dosbarth Nos’.
Ynys yw band Dylan Hughes, gynt o'r bandiau Race Horses a Radio Luxembourg.
Rhyddhawyd yr albwm ym mis Gorffennaf 2024, gan ddilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023.
Wedi'i recordio'n fyw dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Stiwdios Mwnci yng ngorllewin Cymru, gobaith Ynys oedd arddangos esblygiad cerddorol y band, gan "gofleidio palet sain mwy egnïol ac anturus gyda'i drefniadau deinamig rhyfeddol."
Derbyniodd yr enillwyr dlws a gomisiynwyd yn arbennig.
Mae'r wobr, a drefnir gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru, yn dathlu'r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn.
Y beirniaid eleni oedd Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.
Pwy oedd ar y rhestr fer?
Mae'r wobr bellach wedi bod yn rhedeg ers 2014, a Cowbois Rhos Botwnnog oedd yr enillwyr y llynedd.
Y naw albwm arall oedd ar y rhestr fer oedd -
Adwaith - Solas
Bwncath - Bwncath III
Don Leisure - Tyrchu Sain
Elfed Saunders Jones - Cofiwch Roswell
Gwenno Morgan - Gwyw
Gwilym Bowen Rhys - Aden
Pys Melyn - Fel Efeilliaid
Sywel Nyw - Hapusrwydd yw Bywyd
Tai Haf Heb Drigolyn - Ein Albwm Cyntaf Ni