Gwasanaeth tân yn diffodd tanau gwyllt yng Nghwm Elan

Diffodd tan Cwm Elan

Mae'r gwasanaeth tân wedi dweud eu bod wedi diffodd tanau gwyllt ger Cwmystwyth yng Nghwm Elan. 

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a'u partneriaid wedi bod yn ymateb i danau gwyllt yn yr ardal dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân ddydd Gwener bod y tanau bellach wedi'u diffodd.

 "Mae ein swyddogion bellach yn paratoi i adael y lleoliad," meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth.

"Gyda glaw trwm yn yr ardal heddiw, ynghyd â chefnogaeth gan hofrennydd diffodd tân Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r sefyllfa bellach wedi gwella'n sylweddol."

Ond mae'r gwasanaeth tân yn dweud bod cyngor iechyd cyhoeddus yn parhau mewn grym oherwydd unrhyw fwg sydd ar ôl.

"Dylai trigolion gadw drysau a ffenestri ar gau tra bo mwg yn bresennol, gan eu hagor eto pan fydd y mwg yn mynd heibio," meddai.

"Os ydych chi'n teithio mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan fwg tân gwyllt, cadwch ffenestri a fentiau aer ar gau."

Er bod cawodydd pellach yn cael eu rhagweld dros y penwythnos, mae asiantaethau yn parhau i annog y cyhoedd i weithredu'n gyfrifol.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Diolch i bawb a oedd yn rhan o'r ymateb i'r digwyddiad hwn, ac i'r cyhoedd am eu cydweithrediad.

"Mae tirweddau Cymru yn arbennig iawn, ond maen nhw hefyd yn agored i niwed. 

"Byddwch yn #DdoethiDanauGwyllt dros benwythnos Gŵyl y Banc."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.