Mae dyn yn ei arddegau wedi ei gael yn euog o lofruddio menyw drwy yrru car ati hi ac eraill y tu allan i glwb yng Nghaerdydd ar ôl iddo gymryd ocsid nitraidd, neu nwy chwerthin.
Roedd Kian Bateman, 19 oed, wedi bod yn gwylio Shelley Davies a’i phartner, David Bratcher, o’i gar gyda’r injan yn rhedeg wrth iddyn nhw fod yn rhan o "ffrwgwd" gyda'i frawd, Kai Bateman.
Yn ystod oriau mân 27 Medi y llynedd, roedd grŵp mawr o bobl y tu allan i glwb Home Guard yn ardal Trelái o’r brifddinas ar ôl gig.
Dyna pryd y gwnaeth Kai Bateman ddyrnu Shelley Davies, 38 oed, yn ei phen - yn ôl pob golwg i ddial arni am daro balŵn nwy chwerthin o’i geg.
Ar ôl dioddef ail ergyd i’w phen, syrthiodd Ms Davies yng nghanol y ffordd.
Eiliadau’n ddiweddarach, gyrrodd Kian Bateman ei gar Seat Ibiza y pellter byr tuag at Ms Davies, oedd ar y llawr, ac at Mr Bratcher, oedd yn sefyll yn y ffordd.
Cafodd Shelley Davies ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach o’i hanafiadau "ofnadwy".
Gyrrodd Kian Bateman i ffwrdd heb stopio, gan honni nad oedd wedi sylweddoli ei fod wedi taro neb.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, fe wnaeth rheithgor gael Bateman yn euog o lofruddio Ms Davies.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Gorffennaf.