Nigel Farage ‘yn anghywir’ am etholiad cynnar meddai’r llywodraeth

Nigel Farage

Mae prif ysgrifennydd y Prif Weinidog wedi wfftio honiad gan Nigel Farage bod y Deyrnas Unedig yn wynebu Etholiad Cyffredinol cynnar.

Dywedodd arweinydd Reform UK yng nghynhadledd y blaid yn Birmingham ddoe bod y Blaid Lafur yn wynebu rhwyg mewnol ar ôl ymddiswyddiad y Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner.

Fe wnaeth Angela Rayner ymddiswyddo o'r llywodraeth yn dilyn sgandal am dreth stamp.

Arweiniodd y datblygiad at ad-drefnu Cabinet y llywodraeth yn San Steffan ddydd Gwener. 

Fe gafodd David Lammy ei benodi'n ddirprwy brif weinidog newydd, gydag Yvette Cooper yn symud o fod yn Ysgrifennydd Cartref i fod yn Ysgrifennydd Tramor.

Wrth ymateb dywedodd Nigel Farage: "Rydyn ni ar fin gweld rhwyg mawr yn y Blaid Lafur.

"Rwy'n credu bod cyfle sylweddol erbyn hyn y bydd etholiad cyffredinol yn digwydd yn 2027 a mae’n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer hynny.”

Ond wfftio hynny wnaeth Darren Jones, Prif Ysgrifennydd y Prif Weinidog, wrth siarad ar Sky News ddydd Sadwrn.

"Mae Nigel Farage yn anghywir, nid yw'r Blaid Lafur yn mynd i hollti ac ni fydd yna etholiad cynnar," meddai.

"Rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar flaenoriaethau'r wlad a'r cyhoedd, nid ar wleidyddiaeth fewnol y blaid.

“Gwrthbleidiau fel y Ceidwadwyr a Reform sy’n rhwygo eu hunain yn ddarnau y rhan fwyaf o’r amser.”

Ychwanegodd hefyd fod Keir Starmer wedi bwriadu ad-drefnu ei Gabinet ond roedd ymddiswyddiad Angela Rayner wedi newid yr amseru.

"Roedd y Prif Weinidog wedi bwriadu ad-drefnu ar amserlen ychydig yn arafach ac wedi dechrau meddwl am benodi’r gweinidogion yr oedd eu heisiau a gyrru pethau ymlaen yn unol â blaenoriaethau'r cyhoedd," meddai.

"Fe gafodd hynny ei ddwyn ymlaen o ganlyniad i ymddiswyddiad y cyn Ddirprwy Brif Weinidog."

Ad-drefnu'r cabinet

Fe gafodd David Lammy ei benodi yn Ddirprwy Brif Weinidog a symudodd i rôl newydd fel Ysgrifennydd Cyfiawnder, ar ôl gwasanaethu fel yr Ysgrifennydd Tramor dros y flwyddyn ddiwethaf.

Shabana Mahmood, y cyn ysgrifennydd cyfiawnder, yw'r Ysgrifennydd Cartref newydd, tra bod Yvette Cooper wedi symud o'i swydd y Swyddfa Gartref i gymryd drosodd swydd flaenorol Mr Lammy fel Ysgrifennydd Tramor.

Gyda Rachel Reeves yn parhau yn ei swydd fel Canghellor, mae penodiad Ms Mahmood a Ms Cooper i'w rolau newydd yn golygu bod menywod yn y tair swydd fwyaf yn y llywodraeth tu hwnt i’r Prif Weinidog.

Fe fydd Pat McFadden, a fu gynt yn uwch weinidog yn Swyddfa'r Cabinet, yn cymryd drosodd "uwch-weinidogaeth" newydd sy'n cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau a chylch gwaith sgiliau'r Adran Addysg.

Mae Steve Reed wedi cymryd drosodd briff Ms Rayner fel Ysgrifennydd Tai, gan adael ei rôl fel ysgrifennydd yr amgylchedd ar ôl.

Mae Darren Jones, a gafodd ei benodi i swydd newydd Prif Ysgrifennydd y Prif Weinidog ddyddiau yn ôl, hefyd yn cymryd drosodd hen swydd Mr McFadden yn Swyddfa'r Cabinet sef Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn.

Mae Peter Kyle wedi'i benodi'n Ysgrifennydd Busnes, tra bod Jonathan Reynolds wedi'i symud o'r swydd honno i fod yn Brif Chwip y Llywodraeth, gan gymryd lle Syr Alan Campbell, sef Arweinydd newydd Tŷ'r Cyffredin.

Cafodd Lucy Powell, cyn-arweinydd Tŷ'r Cyffredin, a chyn-ysgrifennydd yr Alban Ian Murray, eu diswyddo.

Douglas Alexander, a oedd yn weinidog masnach, fydd Ysgrifennydd yr Alban.

Mae Liz Kendall, cyn-ysgrifennydd gwaith a phensiynau, yn cymryd drosodd hen swydd Peter Kyle fel Ysgrifennydd Gwyddoniaeth.

Cafodd yr ad-drefnu ei gwblhau gyda phenodiad Emma Reynolds yn Ysgrifennydd yr Amgylchedd.

Image
Angela Rayner
Angela Rayner

Beth aeth o’i le i Angela Rayner?

Fe wnaeth ymchwiliad ddyfarnu bod Angela Rayner wedi torri rheolau yn ymwneud â safonau gweinidogol ar ôl cyfaddef iddi beidio â thalu digon o dreth stamp ar eiddo.

Fe wnaeth hi arbed £40,000 mewn treth stamp wrth brynu fflat yn Hove, de Lloegr, oherwydd iddi dynnu ei henw oddi ar weithredoedd ei chartref teuluol yn ei hetholaeth yn Ashton-under-Lyne ger Manceinion. 

Dywedodd Ms Rayner wrth y Prif Weinidog mewn llythyr ddydd Gwener ei bod yn “difaru’n fawr” ei phenderfyniad i beidio â cheisio cyngor treth arbenigol ychwanegol - gan ychwanegu ei bod yn cymryd “cyfrifoldeb llawn" am y camgymeriad.

Dywedodd Syr Keir Starmer wrthi y bydd yn “parhau i fod yn ffigwr pwysig yn ein plaid” ac yn “parhau i ymladd dros yr achosion rydych chi mor angerddol amdanynt” yn dilyn ei hymddiswyddiad.

Llun gan PA / Stefan Rousseau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.