
Cofio am Dai Roberts wrth i Rali Ceredigion ddychwelyd
Bydd Rali Ceredigion yn cofio dyn o Sir Gâr a fu farw mewn damwain ralïo yn yr Alban, wrth i’r ras ddychwelyd dros y penwythnos.
Ym mis Mai, bu farw Dai Roberts, oedd yn 39 oed, wrth iddo gyd-yrru â James Williams yn ystod Rali Jim Clark yn Sir Berwick.
Eleni, bydd Rali Ceredigion yn cofio'r tad i ddau wrth enwi ‘crest’ ar gymal Nant Y Moch ar ei ôl.
Yno mae disgwyl i’r ceir “fly for Dai - hedfan er cof am Dai”.
Mae disgwyl i James Williams o Gastell Newydd Emlyn, a gafodd ei anafu yn ddifrifol yn yr un gwrthdrawiad, yrru ar flaen y rali.
Cyn cychwyn y rali, dywedodd y gyrrwr rali o Lanbedr Pont Syeffan, Meirion Evans, wrth Newyddion S4C ei fod yn “neis gweld teulu Dai 'ma”.
“Mae wedi bod yn amser caled i nhw ac i James, ni gyd yn agos draw ffordd hyn,” meddai.
“Mae’n od heb Dai ond fi’n siŵr bydde fe ishe gweld ni’n cario mlan a ralïo mlan.”

Y cystadlu
Mae Rali Ceredigion yn rhan o bencampwriaethau ralïo Prydain ac Ewrop.
Bydd timoedd ralïo o bedwar ban byd yn tyrru i Geredigion dros y penwythnos i gymryd rhan yn ras 12 cymal.
Bydd 100 o geir yn rasio 115 milltir ar draws Ceredigion a rhannau o Bowys yn ystod y penwythnos.
Dechreuodd y rali nos Wener, Medi’r 6ed gyda chymal y strydoedd yn Aberystwyth.
Hon yw unig rali sy’n cau ffyrdd yng Nghymru.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies, “ni’n browd iawn o’r sir a ni’n agor e lan i weddill y byd”.
“Nid dim ond rhywbeth ar gyfer gogledd y sir yw e, ma fe ar draws Ceredigion i gyd,” meddai.
“Fi’n derbyn bod anhawster i rai ond o ran y trefnwyr, maen nhw wedi bod wrthi ers wythnosau yn esbonio a chnocio drysau.
“Mae’n dod â lot o arian mewn i’r economi leol - daeth mewn â £4.6 miliwn llynedd.
“Gyda Rali Ceredigion, ma nhw’n un o’r ralis mwyaf cynaliadwy sydd.”

'Bois cloi'
Hayden Paddon a John Jennard o Seland Newydd oedd y pencampwyr y llynedd a gan nad ydynt yn cystadlu eleni, dyma’r cyfle perffaith i wyneb newydd esgyn i’r brig.
Bydd Meirion Evans hefyd yn gobeithio lleihau’r bwlch rhyngddo a’r Gwyddel, William Creighton, sydd ar y blaen ym Mhencampwriaeth Ralïo Prydain ar hyn o bryd.
“Licen i beato fe. Bydde fe’n neis [ennill y bencampwriaeth] ond mae’n mynd i fod yn galed - ma lot o fois gloi ma,” meddai Meirion Evans.
Mae’r rali hefyd yn rhan o Bencampwriaeth Ralïo Ewrop sy'n frwydr eleni rhwng y gyrrwr o Wlad Pwyl, Miko Marczyk a’r Eidalwr, Andrea Mabellini.
11 pwynt sy’n gwahanu’r ddau yn dilyn y rali ddiwethaf yn y Weriniaeth Tsiec.

Ymysg y gyrwyr rhyngwladol, mae disgwyl ambell Gymro wneud yn dda yn y rali gydag Osian Pryce o Ddolgellau yn gobeithio dychwelyd i frig y podiwm.
Mae Osian Pryce wedi ennill y rali hon ddwywaith ac mae’n “edrych mlaen yn fawr," meddai.
“[Cymalau] anodd i weud y gwir, eitha ffast... gobeithio bod y lwc gyda ni eleni - oedd e ddim gyda ni llynedd,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae'n sbeshal iawn - ni'n lwcus iawn i gal y gefnogaeth i gynnal y rali yma yng Ngheredigion.”
Prif lun o 'crest' Dai Roberts: BRC / Rali Ceredigion