Angharad Llwyd: 'Actio ar y sgrin efo fy merch yn brofiad arbennig'

Angharad Llwyd a'i merch Gwenno

Mae actores sy’n serennu ar y gyfres Rownd a Rownd gyda'i merch wedi dweud bod gweithio gyda’i gilydd yn brofiad "arbennig".

Fe wnaeth Angharad Llwyd sy'n byw ger Bethesda yng Ngwynedd ymuno â chast Rownd a Rownd yn 1997, dwy flynedd ar ôl i S4C roi'r golau gwyrdd i'r gyfres a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed yr wythnos nesaf.

A hithau wedi chwarae rhan Sophie am bron i dri degawd, mae Angharad yn trosglwyddo'i chrefft i'w merch, Gwenno, sy'n 15 oed ac yn chwarae rhan Mair, merch Sophie ar y sgrin.

"Nes i 'rioed ddychmygu fyswn i dal yna, ond dw i'n teimlo’n ffodus iawn bo' nhw wedi cadw fi cyhyd a bo' fi wedi cael bod mewn gwaith yn yr ardal," meddai.

"Ro'n i'n eitha nerfus i ymuno gyda rhaglen deledu am y tro cyntaf, ond yn syth ar ôl cyrraedd Rownd a Rownd mae rhywun yn teimlo’n rhan o’r teulu yno."

Dywedodd Angharad ei bod wedi dysgu'r grefft o actio teledu gan ei rhieni ar y sgrin, sef Glenda (Elliw Haf) a Terry (John Glyn).

"Dw i'n teimlo bod y blynyddoedd cynnar 'na wedi bod yn felys iawn achos efo'u cymorth nhw nesh i ddysgu sut i actio teledu a gafo nhw gymaint o ddylanwad arno fi: yn rhoi fi ar ben ffordd; yn meddwl am ystyr golygfa, yn ymarfer o flaen llaw efo fi," meddai.

"Mae o wedi bod yn daith bleserus iawn o’r dechrau ac mae’r actio wedi dod yn weddol rhwydd wedyn."

'Cylch cyflawn'

Pan oedd hi'n feichiog, cafodd Angharad wybod y byddai ei chymeriad Sophie hefyd yn cael babi fel rhan o'r stori ar y sgrîn.

Yn sgil hynny roedd yn rhaid iddi actio golygfa genedigaeth Mair pan oedd hi’n wyth mis yn feichiog.

"Mi oedd o’n brofiad eitha surreal ac o’n i’n weddol nerfus ar y diwrnod, ond dw i'n gwbod oedd pawb arall ar y set yn nerfus iawn hefyd achos oedd pawb yn sylweddoli bo' hyn yn agos at ddyddiad geni go iawn Gwenno," meddai.

"Ag wedyn oedd y golygfeydd yn y tŷ ac o'n i’n goro dechrau mynd mewn i enedigaeth yn y tŷ a dw i'n cofio trio dychmygu sut brofiad ydi o a gwneud dipyn o ymchwil a dw i'n cofio meddwl ar ôl geni Gwenno fyswn i wedi gwneud yr olygfa dipyn yn wahanol.

"Dri mis yn ddiweddarach mi ddaeth Gwenno i ddod yn fy mreichiau ar y set, felly roedd o’n gylch cyflawn yn y pen draw."

Yn ôl Angharad, roedd cael dychwelyd i'r gwaith gyda'i merch fach yn brofiad "braf iawn".

"Dw i'n cofio pan oedd hi’n fabi oedd hi'n amlwg yn fy mreichiau i ac o'n i'n gwneud y golygfeydd efo hi ag oedd hynny’n braf iawn," meddai. 

"Ond pan nath hi ddechrau siarad oedd hi'n siarad ar draws yr olygfa ac oeddan nhw’n gora tynnu hi oddi ar y set achos bo' hi’n siarad ar draws yr actorion. 

"A doedd hi'm yn licio hynny achos oedd hi’n cael ei thynnu oddi ar y set ond hefyd ei mam, felly roedd 'na fwy o drafferth i’w chael hi oddi ar y set nag ar y set!"

'Ffrindiau gorau'

Erbyn hyn mae Gwenno yn ei blwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd ac yn gwerthfawrogi cael gweithio gyda'i mam.

"Mae'n brofiad lyfli a dweud y gwir, fysa lot o bobl yn meddwl: 'W, gweithio efo dy fam - sut mae hynna?'," meddai.

"Ond dw i'n mwynhau bob eiliad ohona fo a dw i'm jyst yn dweud hynna, mae fi a mam yn ffrindiau gorau, 'da ni’n gyrru 'mlaen yn dda iawn. 

"Mae’n ddifyr iawn gallu dangos ochr gwahanol i chdi dy hun pan ti ar set ac ar sgrin, achos coeliwch neu beidio dydi fi a Mam ddim yn rai am ffraeo go iawn!"

Yn ôl Gwenno, mae'n braf cael dysgu'r grefft gan ei Mam ac mae hi'n gobeithio parhau i'w datblygu.

"Mae'n neis gallu ymarfer leins a golygfeydd adre achos 'da ni’n dwy 'di bod arno fo ers amser hir," meddai.

"Ac mae'n neis achos mae hi 'di dysgu gymaint gan Elliw Haf sy’n Nain i fi arno fo, ac mae hi’n pasio hynna 'mlaen i fi.

"Dw i jyst yn meddwl bod o’n lyfli de."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.