
Palestine Action: Arestio protestwyr oedd wedi ymgynnull o flaen Senedd San Steffan
Mae'r heddlu wedi arestio nifer o brotestwyr oedd wedi ymgynnull o flaen Senedd San Steffan yn Llundain i alw ar y llywodraeth i godi’r gwaharddiad ar fudiad Palestine Action.
Roedd Heddlu’r Met wedi dweud y byddai unrhyw un oedd yn rhan o’r brotest yn San Steffan yn gweithredu’n anghyfreithlon a gallai wynebu gael ei arestio.
Wrth i Big Ben daro 13.00 dechreuodd y protestwyr ysgrifennu negeseuon yn cefnogi Palestine Action ar arwyddion.
Dechreuodd yr heddlu arestio'r protestwyr a'u symud un wrth un i ogledd-orllewin y sgwâr.
Roedd y trefnwyr yn disgwyl i tua 1,000 o bobl fod yn rhan o’r brotest.
Dywedodd Franco Ferrer, 69, o Lanberis yng ngogledd Cymru, fod yr heddlu wedi bod yn tynnu lluniau ohono ers iddo gyrraedd.
Roedd yn gwisgo crys-t ‘Plasticine Action’.
“Mae’r crys-t yn ffordd effeithiol o gyfleu’r neges heb risgio cael fy arestio,” meddai.
“Wna i ddim ysgrifennu arwydd oherwydd dydw i ddim yn credu bod gen i’r dewrder i wneud hynny.
“Rydw i wedi dod i gefnogi’r weithred oherwydd bod y Llywodraeth yn gwahardd grŵp protest trwy ddefnyddio deddfau terfysgaeth mewn modd gwarthus.
“Mae’n tawelu rhyddid barn.”

Roedd Mike Higgins, 62, sy'n ddall ac yn defnyddio cadair olwyn, wedi dychwelyd i brotestio ar ôl cael ei arestio mewn protest flaenorol.
“Pa ddewis sydd gen i?” gofynnodd.
“Ydw i'n derfysgwr? Dyna jôc y peth.
“Rydw i eisoes wedi cael fy arestio o dan y Ddeddf Terfysgaeth ac rwy'n credu y byddaf eto heddiw.”

'Anghyfreithlon'
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Scotland Yard, Ade Adelekan: “Mae Palestine Action yn grŵp sydd wedi’i wahardd gan Lywodraeth y DU.
“Mae’n drosedd bod yn aelod ohono neu fynegi cefnogaeth iddo.
“Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y brotest hwn ac mewn protestiadau blaenorol o’r fath yn gwneud hynny gan wybod bod eu gweithredoedd yn anghyfreithlon.
“Os byddwch chi’n dangos cefnogaeth i Palestine Action – trosedd o dan y Ddeddf Terfysgaeth – byddwch chi’n cael eich arestio.
“Mae gennym ni nifer y swyddogion, y capasiti a’r holl adnoddau eraill i brosesu cymaint o bobl ag sydd eu hangen.”
Rhagor i ddilyn...
Prif Lun: James Manning / PA.