Siop 'prepper' yn Llanfair-ym-muallt yn helpu pobl i baratoi am argyfwng
Siop 'prepper' yn Llanfair-ym-muallt yn helpu pobl i baratoi am argyfwng
Mae perchennog siop ym Mhowys, sy'n darparu nwyddau ar gyfer pobl sy'n paratoi am argyfyngau, yn dweud eu bod nhw "mor brysur ag erioed".
Agorodd drysau 'The Bug Out' yn Llanfair-ym-Muallt yn 2020 - yr unig siop o'r fath yng Nghymru.
O offer goroesi a gwersylla, i fwyd a dillad, mae'r siop yn lle y gall preppers gasglu cyflenwadau er mwyn paratoi am y gwaethaf.
Prepper yw person sy'n paratoi ar gyfer argyfyngau neu drychinebau mawr.
Dywedodd perchennog y busnes, Leigh Price, wrth Newyddion S4C ei fod wedi derbyn sawl galwad a neges gan nifer o bobl ar draws y DU yn gofyn am gymorth gyda 'preppio', ac yn disgrifio 'preppio' fel "polisi yswiriant".
Fe wasanaethodd Leigh yn y fyddin yn yr 1990au ac mae e wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu am bron i 20 mlynedd.
Ers agor pum mlynedd yn ôl, mae Leigh wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd yn dod i'r siop.
"Pan ddechreuodd y gwrthdaro rhwng Wcráin a Rwsia, oedd yn manic", meddai.
"Mi oedd 'preppio' yn y newyddion falle unwaith y flwyddyn, nawr mae yn y newyddion bron pob ychydig wythnosau."
O'r coronafeirws i'r gwrthdaro rhwng Rwsia a Wcráin, mae'r siop wedi bod yn brysur iawn meddai.
Yswiriant
Dywedodd mai nid rhyfel yn unig sy'n cymell pobl i 'preppio': "Cymerwch esiampl o argyfwng, er enghraifft, colli pŵer, ac yna datrys y broblem gyda phethau penodol," meddai.
"Dim ffordd o dwymo eich bwyd?
"Sicrhau bod gyda chi ffordd eilradd o dwymo eich bwyd fel nwy ac ati.
"Goleuadau wedi mynd? Torchau, canhwyllau.
"Jest meddyliwch am sefyllfa a'r ffordd orau allwch chi ddod dros hynny.
"Bydd y mwyafrif o bobl yn meddwl am fwyd, cysgod a dŵr. Mae'n rhaid i chi edrych ar 'preppio' fel polisi yswiriant, yswiriant yn erbyn y ffordd yr ydych chi'n byw."